Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i blant ac ieuenctyd y cyfundeb hwnw. Argrephid ef, ar ran y cyfundeb, o'r dechreu hyd Hydref, 1875, gan Mr. J. Mendus Jones, Bangor, ac oddiar hyny hyd yn bresennol, gan Mr. Samuel Hughes, 3, York Place, Bangor. Bydd ei olygwyr yn newid bob oddeutu dwy neu dair blynedd, ac y mae wedi bod, o'r cychwyn, dan olygiaeth amryw, ac yn eu plith gellid enwi y Parchn. Thomas Jones, D.D, Richard Pritchard, Robert Williams, Samuel Davies, W. Davies, D.D., Henry Parry, W. H. Evans, Thomas Thomas, John Jones, John Hughes (Glanystwyth), John Evans (Eglwysbach), John Griffith, Rice Owen, J. H. Evans (Cynfaen), H. Jones (Harddfryn), D. O. Jones, &c. Golygir ef, ar hyn o bryd (1892), gan y Parch. T. J. Pritchard, Llanelli. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Mae hwn yn gyhoeddiad buddiol i'r plant, a da genym ei fod yn cael cylchrediad helaeth. Hefyd, yn Ionawr, 1865, cychwynwyd cyhoeddiad arall dan yr enw Y Winllan, yn dal cysylltiad, yn benaf, â phlant ac ieuenctyd y Bedyddwyr yn y Deheudir. Daethai allan dan olygiaeth y Parchn. Edward Evans, Dowlais, a J. Emlyn Jones, ac argrephid ef gan Mr. D. J. Thomas, Aberdar. Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn fisol. Prin am flwyddyn y parhaodd, a gresyn ydoedd i gyhoeddiad mor bwrpasol i blant gael ei roddi i fyny mor fuan, er, ar yr un pryd, nas gallwn gymeradwyo rhoddi enw cylchgrawn fydd yn fyw ar yr un amser ar gylchgrawn newydd arall a gychwynir, yn enwedig os byddent yn gweithio i'r un amcanion. Methwn a gweled fod hyny yn deg.

Baner y Groes, 1854.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1854, dan nawdd cyfeillion yr Eglwys Sefydledig, dan olygiaeth y Parch. John Williams (Ab Ithel), ac argrephid ef, am y flwyddyn gyntaf, gan Mr. W. Morris, Treffynnon, ac yn Ionawr, 1855, symudwyd ef