Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceir ynddo arlwyaeth amrywiol, dyddorol, eglur, a buddiol i'r plant bob mis, ac nid llawer a ellid gael yn mhlith ein cenedl cymhwysach at waith ymarferol o'r fath na'r golygydd llafurus. Cychwynodd gyda chylchrediad o ddeng mil, a deil ei gylchrediad yn awr oddeutu 40,000, ond bu, ar un adeg, yn cyrhaedd oddeutu 45,000. Derbynia gylchrediad yn mhlith bron bob teulu yn dal cysylltiad â'r cyfundeb sydd yn ei gyhoeddi, a derbynir of gan laweroedd o'r tu allan i'w gyffiniau enwadol ei hun.

Llyfr y Plant, 1862.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn Mawrth, 1862, dan olygiaeth y Parchn. J. Jones, Blaenllechau (yr hwn a barhaodd hyd Ionawr, 186 ac A. J. Parry, Cefnmawr. Darfu i'r Parch. Evan Jones, Llanfaircaereinion. ymgymeryd a'r olygiaeth yn Ebrill, 1863, yn lle Mr. Jones, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. W. Williams, Llangollen. Cyhoeddiad chwarterol ydoedd, a'i bris ydoedd dimai, ac amcenid ef i gyfarfod â'r plant ieuengaf, ac yn mhlith teuluoedd y Bedyddwyr y caffai gylchrediad. Daeth allan y rhifyn olaf yn Ebrill, 1864.

Dysgedydd y Plant, 1871.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1871, dan olygiaeth y Parch. David Griffith, Bethel (Dolgellau ar ol hyny), ac argrephid of yn swyddfa Mr. William Hughes, Dolgellau. Dylid hysbysu mai dan nawdd yr Annibynwyr y cyhoeddir ef, ac mai yn mhlith eu plant hwy, yn benaf, y cylchredir ef. Ceiniog ydyw ei bris, a daw allan yn fisol. Parhaodd y Parch. D. Griffith i'w olygu hyd ddiwedd y flwyddyn 1878, ac yna bu am dymmor heb neb yn arbenig yn ei olygu. Yn nechreu y flwyddyn 1889, unwyd Cydymaith yr Ysgol Sul ag ef, ac yn Ionawr, 1889, ymgymerwyd â'r olygiaeth gan y Parchn. D. Silyn Evans, Aberdar, ac Owen Jones, Pwllheli (Mountain Ash yn awr). Darfu i Mr. Jones ymneillduo o'r olygiaeth ar ddiwedd y