Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Roberts, Dyffryn (Caernarfon gynt), a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. John Evans, Caernarfon. Ei bris ydoedd ceiniog, a deusi allan yn fisol. Yr oedd hwn yn gylchgrawn bychan da a gwerthfawr—cyfrenid gwybodaeth gyffredinol a buddiol ynddo—ac, yn mhob modd, ymdrechid ei wneyd yn deilwng o'r enw oedd arno. Parhaodd i ddyfod allan hyd oddeutu canol y flwyddyn 1883.

Yr Hauwr, 1890.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn y flwyddyn 1890, a chychwynwyd ef gan nifer o frodyr perthynol i enwad y Bedyddwyr, megis y Parchn. W. Edwards, B.A., Pontypool; Silas Morris, B.A., Llangollen; T. Morgan, Dowlais; D. Evans, Llangefni; T. T. Jones, Caerdydd; a Mr. W. T. Samuel, eto. Er fod y cylchgrawn hwn yn cael ei gyhoeddi dan nawdd Pwyllgor Ysgolion Sabbothol Bedyddwyr Cymru, eto deallwn mai y personau a'i cychwynasant ydynt ei berchenogion. Golygir ef, ar hyn o bryd (1892), gan y Parch. W. Edwards, B.A., Pontypool, ac argrephir ef gan Mr. Jenkin Howell, Aberdar. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog, a bwriedir iddo fod yn gwbl at wasanaeth y plant a'r ieuenctyd.

Cymru'r Plant, 1892.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1892, a chychwynwyd ef gan Mr. Owen M. Edwards, M.A., Rhydychain, ac efe hefyd sydd yn ei olygu, ac argrephir ef gan Mr. D. W. Davies, cyhoeddwr, Caernarfon. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Dywed y golygydd, yn y rhifyn cyntaf, mai amcan y cyhoeddiad ydyw "codi yr hen wlad yn ei hol—dysgu hanes a llenyddiaeth eu gwlad i blant." Bwriedir iddo fod yn gyhoeddiad i holl blant Cymru yn ddiwahaniaeth: "Y mae arnaf eisieu dysgu Hanes Cymru i chwi, hanes eich gwlad chwi, a hanes eich tadau chwi eich hunain—y tadau roddasant eu