Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achubol sydd i bregethu yr Efengyl (1 Cor. i. 21-25), ac ymddengys i ni fod hyny, ynddo ei hun, yn rheswm digonol ar unwaith dros beidio dwyn y naill i gydmariaeth & chystadleuaeth â'r llall o gwbl. Ni pherthyn i ni ychwaith, wrth son am ddylanwad y wasg, benderfynu pa un ai y tafod neu yr ysgrifbin sydd yn meddu y dylanwad mwyaf ar y byd. Ond, mewn gwedd gyffredinol, gallwn ddyweyd fod gan y naill fanteision nad ydynt gan y llall, a diau fod gan bob un o honynt ei fanteision ei hunan, a gellir edrych arnynt, mewn rhyw ystyr, yr un mor anhebgorol, a dylent fod yn gynnorthwy i'w gilydd. Gwyddom fod rhai pobl yn dal mai y cleddyf a wnaeth fwyaf i wareiddio dynolryw, ac y maent yn goredmygu Picton, Wellington, Blucher, Napoleon, Wolseley, a dywedai Bismarc, yn ddiweddar, mai "rhyfel yw rhiant rhinwedd," tra, o'r ochr arall, y dywedai Dr. Clifford, yr un mor ddiweddar, am i ni "harddu rhyfel gymaint ag a allom, ac na bydd, er hyny, ond drwg erchyll." Gall yr ysgrif-bin drywanu heb ladd, ac y mae y wasg wedi cael buddugoliaethau ardderchog heb golli gwaed; tra, fel rheol, nad yw y cleddyf yn ennill dim heb ladd rhywun, a bydd yn rhaid aberthu cannoedd o fywydau, ambell waith, cyn y gall gael buddugoliaethau, ac ar ddiwedd llawer concwest prin iawn y bydd yr ennill yn ddigon i gyd-bwyso y golled. Ymddengys, y rhan amlaf, mai barn gref gymdeithas wareiddiedig y dyddiau presennol ydyw y dylid cadw y cleddyf yn y wain, os na bydd amgylchiadau eithriadol yn galw am dano.

"Segurdod yw clod y cledd,
A rhwd yw ei anrhydedd."

Nis gellir, yn sicr, rhoddi gormod o bwys ar fod i bob cenedl feddu llenyddiaeth o eiddo ei hunan, ac yn perthyn iddi ei hunan. Dywed yr awdwr galluog Channing