Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bywyd i lawr dros eich cartrefi, y tadau fu'n llafurio i gael Beibl i chwi, y tadau fu'n dioddef anghen a sarbad wrth geisio cael moddion addysg i chwi." Mae yn gyhoeddiad amrywiol a helaeth, yn enwedig wrth gofio ei bris, ac yn cynnwys wyth-ar-hugain o dudalenau.

10.—Y CYLCHGRAWN CYFFREDINOL

Trysorfa Gwybodaeth neu Eurgrawn Cymraeg, 1770.—Digon gwir y cyhoeddwyd Tlysau yr Hen Oesau, yn y flwyddyn 1735, gan Mr. Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fon), Caergybi, a bwriedid iddo fod yn gylchgrawn chwarterol, ond ni ddaeth allan ohono ychwaneg na'r un rhifyn cyntaf, yn cynnwys un—ar—bymtheg o dudalenau, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ar ddiwedd y tudalen olaf ceir y gair "Terfyn," yr hyn sydd yn awgrymu fod y cyhoeddwr, mewn gwirionedd, wedi ei ddigaloni hyd yn nod cyn gorphen argraphu y rhifyn cyntaf. Ymddengys, mewn canlyniad, mai gyda chychwyniad Yr Eurgrawn Cymraeg, yn y flwyddyn 1770, y bernir yn gyffredin fod cyfnod cyson a rheolaidd ein cylchgronau Cymreig yn dechreu. Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad boreuol hwn ar ddydd Sadwrn, Mawrth 3ydd, 1770, a'r prif olygydd ydoedd y Parch. Peter Williams (yr Esboniwr), Caerfyrddin, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. Josiah Rees, Gelli Onen, a Mr. Evan Thomas (brodor o Sir Drefaldwyn), argraphydd, Caerfyrddin, a chyhoeddid ac argrephid of gan Mr. Ioan Ross, Caerfyrddin. Deuai allan bob pymthegnos, a'r pris ydoedd tair ceiniog. Cynnwysai pob rhifyn ddeuddeg ar hugain o dudalenau wythplyg bychain, a threfnid ef yn bedair adran o wyth tudalen yr un, fel y gellid, os dymunid, rwymo pob adran ar ei phen ei hun. Ceid, yn yr adran gyntaf, Hanes Cymru; " yn yr ail, "Ymresymiadau ar wahanol