Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

destynau;" yn y drydedd, "Prydyddiaeth;" ac yn bedwerydd, "Newyddion Cartrefol a Phellenig," &c. Gwelir fod y trefniant yn un cywrain, ac yn cyfuno, mewn rhan, yr elfen newyddiadurol a'r gylchgronol. Er mwyn rhoddi syniad am drefnusrwydd a chynnwys y cyhoeddiad hwn, nis gallwn wneyd dim yn well na difyou un rhan fechan ohono dan y penawd, "Cyflwr Presennol Europ:—"

"Y Rwssiaid .. .. Yn rhyfela.
Y Twrciaid .. .. Yn ffoi.
Yr Almaeniaid .. .. Yn gloddesta.
Yr Holandiaid .. .. Yn ennill arian.
Y Ffrancod .. .. Yn ymgrymu ac yn twyllo.
Y Scotiaid .. .. Yn cael swyddau dan y Goron.
Y Gwyddelod .. .. Yn grwgnach.
Y Saeson .. .. Yn diogi ac yn gwneuthur dim.
Y Cymry (sef y rhai a brynant Yr Eurgrawn) .. Yn darllen
newyddion am danynt oll."

Ceid yn Yr Eurgrawn Cymraeg ysgrifau da ac ymarferol—llawer ar amaethyddiaeth, ar y Gymraeg, ac ar hen draddodiadau Cymreig. Ychydig, mewn cydmariaeth, a geid ynddo o'r elfen grefyddol, a'r ychydig hyny heb fod o'r math mwyaf safadwy. Efallai mai un o brif ddiffygion y cyhoeddiad boreuol hwn ydoedd ei fod yn rhy wasgarog, yn rhy anmhennodol, a buasai yn welliant, mae yn ymddangos ni, pe yn fwy pendant a chlir yn ei amcan. Ond, er hyny, dylid cofio ei amseroedd, ac nad oedd y wawr ond megis prin yn dechreu tori, ac wrth ystyried yr holl amgylchiadau, diau y cydnabydda pawb fod Yr Eurgrawn Cymraeg yn werthfawr iawn, ac yn gystal cylchgrawn ag y gellid, ar y pryd hwnw, yn rhesymol ddisgwyl iddo fod. Ni ddaeth allan ohono ond pymtheg rhifyn, sef o'r un am Mawrth 3ydd, 1770, hyd yr un am