Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Medi 15fed, 1770, a rhoddwyd ef i fyny o ddiffyg cefnogaeth.

Y Cylchgrawn Cymraeg, 1793.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Chwefror, 1793, dan olygiaeth, yn benaf, y Parch. Morgan John Rhys, neu fel y gelwid of gan lawer "Morgan ab Ioan Rhys." Pump rhifyn a ddaeth allan ohono, ac argraphwyd y pedwar rhifyn cyntaf yn Trefecca, ac argraphwyd y rhifyn olaf gan y Meistri Ross a Daniel, Caerfyrddin. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog. Dylid dyweyd, wrth fyned heibio, fod y golygydd hwn, sef y Parch. M. J. Rhys, yn un o'r dynion mwyaf hynod a godwyd erioed yn Nghymru. Ystyrid ef yn alluog iawn, a gwnaeth les dirfawr, yn enwedig yn nglyn â llenyddiaeth foreuol Cymru. Ganwyd ef Rhagfyr 8fed, 1760, ac ymddengys iddo symud i'r America oddeutu canol-ddydd ei fywyd, ac yn Somerset, Pennsylvania, y bu farw, Rhag. 8fed, 1804. Cyfrifid Y Cylchgrawn Cymraeg yn gyhoeddiad lled dda. Byddai Dafydd Ddu Eryri yn ysgrifenu llawer iddo, a cheid darnau barddonol helaeth gan Sion Lleyn. Hefyd byddai Morgan Llwyd o Wynedd yn ysgrifenu llythyrau yn aml iddo. Dyma yr ymadrodd diweddaf yn y rhifyn olaf ohono a ddaeth allan "Byw fyddo'r Brenhin, duwiol fyddo'i deulu, doeth fyddo'i gynghoriaid, union fyddo'n Seneddwyr, cyfiawn fyddo'n Barnwyr, diwygio wnelo ein gwlad, heddwch gaffo'r byd. Amen."

Y Geirgrawn, neu Dysorfa Gwybodaeth, 1796.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Chwefror, 1796, dan olygiaeth y Parch. David Davies, Treffynnon (gynt o'r Fenni), ac argrephid ef gan Mr. W. Minshull, Caerlleon. Deuai allan yn fisol, ond ni chyhoeddwyd mwy na naw rhifyn ohono, a daeth allan y rhifyn olaf yn Hydref, 1796. Cynnwysai pob rhifyn oddeutu deuddeg