Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tramora Chartrefol—Ansawdd y marchnadoedd, ac eraill bethau buddiol i Gymro uniaith eu gwybod." Ei arwydd-air, yn ol y wyneb—ddalen, ydoedd: "Oes y byd i'r iaith Gymraeg." Byddai oddeutu pedair-ar-hugaino dudalenau yn mhob rhifyn, a'i bris ydoedd pedair-ceiniog-a-dimai, ond yn Ionawr, 1826, gostyngwyd ef i dair ceiniog. Ni ddaeth allan ohono ond un-ar-hugain o rifynau.

Yr Odydd Cymreig, 1831.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1831, gan Mr. John Davies (Brychan), Merthyr Tydfil, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Daliai y cylchgrawn hwn gysylltiad â'r Odyddion. Rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Y Sylwedydd, 1831.—Cychwynwyd y cylchgrawn misol hwn yn y flwyddyn 1831, dan olygiaeth y Parch. W. Williams (Caledfryn), ac efe, yn benaf, a ddarfu ei gychwyn. Argrephid ef i ddechreu yn Llanerchymedd, Môn, ac yna symudwyd ef i Gaerfyrddin, ond rhoddwyd ef i fyny oddeutu dwy flynedd ar ol ei gychwyniad. Ceid erthyglau ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:" Hanes Môn," "Y Creulondeb o yspeilio llongau drylliedig," "Caledi yr Amseroedd," "Hanes y Camel a'r Dromedary," "Y dechreuad o arferu arian," "Hanesion Cartrefol a Thramor," &c.

Tywysog Cymru, 1832.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Mai, 1832, dan olygiaeth Mr. J. W. Thomas (Arfonwyson), Bangor, ac argrephid ef gan Meistri W. Potter a'i Gyf., Caernarfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd pedair ceiniog. Ceid ysgrifau ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:"Meddwdod a'i ganlyniadau," "Pittacus yr athronydd," "Cyflwr y Bobl," "Ieithyddiaeth," "Y Mil Blynyddoedd," "Sylwadau cyffredinol ar liwio coed," "Iechyd Corphorol," &c. Hefyd, ceid ynddo "Awen Cymru," "Hanesion Cartrefol," "Hanssion Tramor," &c. Bu Arfonwyson yn ei