Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olygu am chwe' mis, sef hyd Tachwedd, 1832, ac yna ceir fod Caledfryn yn cymeryd ei le. Byddai Robyn Ddu Eryri, I. D. Ffraid, Huw Tegai, &c., yn arfer ysgrifenu iddo. Ei arwydd—air, yn ol y wyneb—ddalen, ydoedd: "Cymru Fu, Cymru Fydd." Parhaodd i ddyfod allan am ychydig dros i ddwy flynedd. Ceid un arbenigrwydd yn nglyn â'r cylchgrawn hwn: defnyddid y golofn olaf yn mhob rhifyn ohono fel "Eglurhad o'r geiriau mwyaf anghyffredin yn y rhifyn hwn," ac yna eglurid ystyr holl eiriau dyrus y rhifyn.

Y Gwladgarwr, 1833, 1843—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1833, dan olygiaeth y Parch. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd), ac argrephid ef gan Mr. John Seacome, Caerlleon, a hwy eu dau oeddynt dan yr holl gyfrifoldeb arianol yn nglyn âg ef, a thystiai y golygydd llafurus, ar ddiwedd ail flwyddyn ei gychwyniad, na dderbyniasai efe un elw na thâl oddiwrtho, ond y mwyniant o wybod ei fod yn gwneyd daioni i'w gyd-genedl nid oedd yn gwasanaethu unrhyw sect na phlaid grefyddol na gwladol, ond ymdrechai wasanaethu y gwirionedd." Cynnwysai draethodau, eglurhadau, bywgraphiadau, gohebiaethau, barddoniaeth, hanesiaeth, &c. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Parhaodd cysylltiad Ieuan Glan Geirionydd ag ef am dair blynedd, pryd y rhoddes ef i fyny, wedi bod yn golledwr arianol yn nglyn â'r anturiaeth. Prynwyd yr hawl-ysgrif, yn y flwyddyn 1836, gan Mr. Edward Parry, argraphydd, Caerlleon, a golygid ef gan Mr. Hugh Jones (Erfyl), a chyhoeddid ef "dan nawdd a chefnogaeth pendefigion, boneddigion, parchedigion, yn nghyda lleygion o wahanol enwadau yn Nghymru a Lloegr," a rhaid dyweyd ei fod y pryd hyn mewn diwyg llawer gwell nag o'r blaen. Ei arwydd-air, yn ol y wyneb-ddalen o'r cychwyniad, ydoedd