Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cas gwr na charo
Y wlad a'i maco."

Yn y flwyddyn 1841, modd bynag, dechreuodd wanhau, a gwerthwyd ef drachefn i Mr. R. Lloyd Morris, cyhoeddwr, Tithebarn-street, Lerpwl, ond, er pob ymdrech i'w gadw yn fyw, bu raid ei roddi i fyny yn fuan. Ystyrid Y Gwladgarwr, ar y cyfan, yn gyhoeddiad da. Ceid erthyglau ynddo ar "Yr Archesgob Williams," "Syr William Jones," "Iestyn ab Gwrgant," "Dr. W. O. Pughe," "Syr Thomas Picton," "Dafydd Ddu Eryri," &c. Er, hwyrach, y buasai yn dda pe ceid ynddo ysgrifau mwy hoew, gafaelgar, a galluog, a hyny ar rai testynau gwell, ac er fod braidd ar y mwyaf o ysgrifau bywgraphyddol ynddo, eto cydnabyddir ei fod yn gyhoeddiad clodwiw. Un elfen yn ei gryfder ydoedd y gofod a roddid ynddo i'r sylwadau ar newyddion o wledydd tramor, megis Ffrainc, Yspaen, Portugal, Sweden, America, &c., ac ar faterion tebyg i "Caethiwed y Negroaid yn yr India Orllewinol," &c. Rhoddid lle ynddo i weithrediadau y Senedd, &c., ac ystyrid yr ysgrifau ar "Neillduolion y Gymraeg" yn rhai da. Cychwynwyd, yn y flwyddyn 1843, gyhoeddiad arall dan yr un enw, gan Mr. J. Mendus Jones, Llanidloes, yr hwn hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Er iddo gychwyn yn ddigon gobeithiol, ni pharhaodd i ddyfod allan ond am brin flwyddyn.

Trysorfa Rhyfeddodau, 1833.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1833, a chychwynwyd ef gan Mr. Richard Jones, Dolgellau, ac efe hefyd, yn benaf, oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ei arwydd-air, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Saf, ac ystyria ryfeddodau Duw"