Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(Job xxxvii. 14). Rhoddid lle helaeth ynddo i wahanol ganghenau dysgeidiaeth, ac yr oedd yn amcanu ateb i'w enw, a honai roddi hynodrwydd yr oesoedd, yn mhell ac yn agos, hen a diweddar, mewn rhagluniaeth a natur." Rhoddwyd ef i fyny yn fuan oherwydd diffyg cefnogaeth.

Y Wenynen, 1835.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Hydref, 1835, a chychwynwyd ef gan y Parch. T. Jones (Glan Alun), Wyddgrug, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. R. Hughes, Heol-yr-Eglwys, Gwrecsam. Denai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Dywed am dano ei hun, ar ei wyneb-ddalen, mai "casgliad" ydoedd o gyfansoddiadau mewn Rhyddiaeth a Barddoniaeth a gyhoeddwyd ar ddull cylchgrawn ac adolygydd misol, gan mwyaf o gyfansoddiad y golygydd, sef Glan Alun." Ei arwydd-air ydoedd: "Gwell Dysg na Golud, gwell Awen na Dysg" (Cattwg Ddoeth). Un nodwedd arbenig i'r cylchgrawn bychan hwn ydoedd rhagoroldeb ei Gymraeg. Prin y parhaodd i ddyfod allan am flwyddyn, a thebyg iddo derfynu gyda y rhifyn am Medi, 1836, ac ofnai y golygydd fod enwadaeth Cymru yn gyfrifol, i raddau, am y gefnogaeth annheilwng a gafodd. Yn mhlith ei bennillion olaf, ar ffurf Anarchiad Ymadawol y golygydd a'r cyhoedd, ceir yr un canlynol:—

"Ac felly fydd, ychydig fel pawb arall
A fyn oleuo ar yr enwog Gymry;
Am bob rhyw lyfrau maent yn hollol ddiwall
Ond llyfr y sect, am hwnw rhaid ei brynu
Boed wael boed wych; yn hyn nid yw eu deall
Yn ddisglaer iawn, mae 'n ddigon gwir er hyny—
A phe argraff 'swn innau er mwyn ennill
Buaswn heddyw 'n waeth na ffwl yn Ebrill."

Yr Athraw, 1836.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1836, gan y Parch. Humphrey Gwalchmai, Croes-