Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oswallt, yr hwn hefyd ydoedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. John Jones, Albion Wasg, Llanidloes Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ceir, yn nechreu y flwyddyn 1844, fod y Parch. Humphrey Gwalchmai wedi trosglwyddo yr olygiaeth i law y Parch. John Foulkes, Abergele (Rhuthyn wedi hyny), ac ymddengys, oddeutu yr adeg hono, fod amryw frodyr wedi ymffurfio yn "Gwmni Cyfeillgar a Gohebol" i'r dyben owneyd y cyhoeddiad hwn yn un mor fuddiol a manteisiol "er cynnydd gwybodaeth, darostwng anfoesau, a chodi rhinweddau yn mysg cenedl y Cymry"—ag oedd yn bosibl, ond nid oedd y cwmni hwn yn gosod eu hunain dan rwymau na chyfrifoldeb am ddim perthynol i'r Athraw heblaw eu cynnyrchion eu hunain yn unig. Ymddengys na pharhaodd i ddyfod allan yn hwy na haf y flwyddyn 1844. Cynnwysai ddosran i'r duwinydd, athronydd, esboniedydd, bywgraphydd, hanesydd, prydydd, dirwestydd, trefniedydd, amrywiaethydd, a'r gwyliedydd gwladol, a chyfeiriedig, yn benaf, at ieuenctyd Cymru." Cyhoeddiad da ydoedd hwn, a cheid ynddo lawer iawn o amrywiaeth, mewn mater ac arddull, ac er ei fod yn meddu yr elfen gyffredinol, eto nodwedid y cyfan âg yspryd crefyddol, ac er ei fod, i raddau helaeth, yn gwasanaethu i amcanion cenedlaethol, eto rhaid dyweyd ei fod dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd yn fwy na neb arall.

Tarian Rhyddid, a Dymchwelydd Gormes, 1839.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Ionawr laf, 1839, dan olygiaeth y Parchr. W. Rees (Hiraethog), Hugh Pugh, Mostyn, D. Price, Dinbych, a hwy yn ysgrifenu bron y cwbl iddo, ac argrephid ef gan Mr. J. Jones Llanrwst. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Er rhoddi syniad am ei natur nis gellir gwneyd yn well na difynu diwedd yr anerchiad