Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eiriau cryfion ar hyn, a chredwn fod ynddynt gen adwri at sefyllfa lenyddol Cymru:—

"It were better to have no literature than form ourselves unresistingly on a foreign one. The true sovereigns of a country are those who determine its mind, its modes of thinking, its tastes, its principles; and we cannot consent to lodge this sovereign ty in the hands of strangers. A country, like an individual, has dignity and power only in proportion as it is self-formed. We need a literature to counteract, and to use wisely the literature which we import. We need an inward power proportionate to that which is exerted on us, as the means of self-subsistence..... A foreign literature will always, in a measure, be foreign. It has sprung from the soul of another people, which, however like, is still not our own soul. Every people has much in its own character and feelings which can only be embodied by its own writers, and which, when transfused through literature, makes it touching and true, like the voice of our earliest friend."—(Channing's Works, tudal. 108—9.)

Credwn fod yn y difyniad hwn wirionedd pwysig -gwirionedd ag y dylid ei gofio yn nglyn â'r newyddiaduron, cyfnodolion, a'r llyfrau Seisonig sydd yn arfer cael eu derbyn yn Nghymru. Nid ydym, wrth ddyweyd hyn, yn dymuno o gwbl awgrymu unrhyw beth yn ddiraddiol ar y cynnyrch llenyddol Seisonig sydd yn dylifo i'n gwlad—dylem, i raddau helaeth, fod yn ddiolchgar amdano; ond, ar yr un pryd, credwn fod yn hanfodol bwysig i bob cenedl feddu llenyddiaeth o eiddo ei hunan, a gwneyd ei goreu i gefnogi ei llenyddiaeth. Dywedir fod llenyddiaeth Seisonig-yn ei newyddiaduron, ei chyfnodolion, ac yn ei llyfrau—yn cael ei chefnogi yn llawer gwell gan rai Cymry nag hyd yn nod eu llenyddiaeth Gymreig hwy eu hunain, ac eto hwyrach mai y bobl hyn, er mor anghymhwys i roddi barn, fydd y rhai cyntaf i feirniadu a choll—farnu llenyddiaeth Gymreig. Mae hyn yn dangos diffyg