Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ymgymerwyd â'r olygiaeth gan ei frawd, sef y Parch. John Roberts (J. R.), Conwy, yr hwn a barhaodd i'w olygu hyd Awst, 1884, pryd y bu ef farw. Yna, ar ol dychwelyd gartref, darfu i S R. ail-gymeryd yr olygiaeth, a pharhaodd yntau i'w olygu hyd ei farwolaeth yn Medi, 1885. ymgymerwyd â'r olygiaeth, ar ol hyny, gan y Parchn. M. D. Jones, Bala, & W. Keinion Thomas, Llanfairfechan, a hwy sydd yn parhau i'w olygu byd yn awr (1892). Argrephid ef, oddiar ei gychwyniad hyd y flwyddyn 1864, gan Mr. Evan Jones, Dolgellau, ac yna, o'r flwyddyn 1864 hyd y flwyddyn 1872, argrephid ef gan Mr. W. Hughes, Dolgellau, ac wedi hyny bu yn cael ei argraphu gan y Meistri Jones ac Evans, Blaenau Ffestiniog. Bu Mr. Humphrey Evans, Bala, ar ol hyny, yn ei argraphu, ac yn nechreu y flwyddyn 1890, daeth i gael ei argraphu gan Mr. Samuel Hughes, cyhoeddwr, Bangor, yr hwn sydd yn parhau i'w argraphu. Daw allan yn fisol, a'i bris, ar ei gychwyniad, ydoedd ceiniog; ond, yn y flwyddyn 1874, helaethwyd ef a newidiwyd ei ddiwyg yn hollol, a gyda dechreuad y gyfres newydd hon ohono codwyd ei bris i ddwy geiniog, ac ymddengys yn gyhoeddiad destlus a glanwaith. Rhenir ei gynnwys dan wahanol adranau:—"Amrywiaeth," "Pigion i'r Plant," "Congl Goffa," "Tôn," "YGolygwyr a'u Gohebwyr," "Nodion ar Newyddion," "Barddoniaeth," &c. Er ei fod, mewn llawer ystyr, yn gylchgrawn cyffredinol a chenedlaethol, eto ceir mai yn mhlith yr Annibynwyr y mae ei gylchrediad fwyaf, a theg ydyw dyweyd fod ei gynnwysiad yn dal perthynas mwy uniongyrchol â hwy na neb arall,

Y Cwmwl, 1843.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1843, gan gwmni neillduol yn Aberystwyth, gyda'r Meistri Joseph Roberts, dilledydd, Aberystwyth,