Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Heb athraw, heb ddysg,
Heb ddysg, heb wybodau,
Heb wybodau , heb ddoethineb.'"

Byddai ysgrifau galluog yn ymddangos ynddo ar gwestiynau cymdeithasol y dydd, ac edrychid ar y rhai hyny yn arbenig yn eu perthynas â'r gweithwyr, ond ni pharhaodd y cylchgrawn i ddyfod allan yn hwy nag oddeutu blwyddyn a haner, a hyny ar gyfrif diffyg cefnogaeth.

Y Nofelydd, a Chydymaith y Bobl, 1861.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1861, a chychwynwyd ef gan Mr. W. Aubrey, Llanerchymedd, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Deuai allan yn a'i bris ydoedd ceiniog. Dywedir, yn y "Cyfarchiad ' a geir ar wyneb—ddalen y rhifyn cyntaf ohono, fel y canlyn "Yr ydym yn bwriadu gwneyd lles i'r wlad trwy osod o flaen y lluoedd, mewn ffordd rad, bennodau ar wahanol faterion, difyrus a llesol, y gwna y darlleniad ohonynt bleser i'r meddwl, goleuni i'r deall, a lles i'r gydwybod. Math am ffug-draethau a hanesion buddiol, yn benaf, fydd cynnwys Y Nofelydd; & hyderwn y gallwn trwyddo osod o flaen llawer bachgen a geneth, a llawer teulu, ddigwyddiadau ag y bydd y gwersi a welir ynddynt yn rhwym o wneyd lles iddynt wrth ymwthio trwy eu bywyd yn eu cysylltiad â phethau y byd hwn yn gystal a phethau y byd a ddaw." Rhoddwyd ef i fyny cyn hir.

Golud yr Oes, 1862.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Meadi, 1862, a chychwynwyd af gan Mr. Hugh Humphreys, Caernarfon, ac efe hefyd gan fwyaf, oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Denai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Nis gellir gwneyd yn well, er egluro ei natur a'i amcan, na difynu y geiriau canlynol oddiar glawr y rhifyn cyntaf:—"I. Hanesydd-