Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erchymedd. Ei bris ydoedd ceiniog, a deusi allan yn fisol. Bwriedid iddo wasanaethu "Llenyddiaeth, Celf- yddyd, a Gwyddoniaeth," ac amcanai fod "yn ddyddan, addysgiadol, a heddychlawn." Am ychydig amser y parhaodd.

Y Medelwr Ieuanc, 1871.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1871, a chychwynwyd ef gan gwmni perthynol i'r Bedyddwyr, ac argrephid ef gan Mr. Jenkin Howell, Aberdar. Cyhoeddid af dan olygiaeth bwrdd y cyfarwyddwyr, cynnwysedig o'r personau canlynol:-Parchn. Dr. Price, J. R. Morgan (Lleurwg), Thomas John, David Davies (Dewi Dyfan), J. Rufus Williams, a'r Meistri Ceiriog Hughes, ac E. G. Price, &c. Ei bris ydoedd ceiniog, a chyhoeddid ef yn fisol "at wasanaeth ysgolion a theuluoedd Cymru." Yr oedd ei blygiad yn helaeth, pob rhifyn yn cynnwys pedair tudalen, a cheid ynddo amrwy ddarluniau. Parhaodd i gael ei ddwyn allan am rai blynyddoedd.

Cronicl Canol y Mis, 1871.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1871, gan y Parch. Samuel Roberts (S. R.), Conwy, ac argrephid of gan Mr. R E. Jones, cyhoeddwr, Conwy. Cylchgrawn misol bychan ydoedd, a deuai allan ar ganol y mis, ond rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Y Darlunydd, 1876.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn Ebrill, 1876, dan olygiaeth Mr. John Evans Jones, Caernarfon, ac argrephid ef gan Mr. John Evans, Highstreet, Caernarfon. Ei bris ydoedd ceiniog, a galwai ei hunan yn "gyhoeddiad misol y bobl." Ceid ar ei ddalen gyntaf, fel rheol, ddarlun un o enwogion Cymru, ac erthygl arno. Ceid lluaws o wahanol ddarluniau ynddo, ac ystyrid ef yn gyhoeddiad tra dyddorol. Parhaodd i ddyfod allan hyd oddeutu diwedd y flwyddyn 1879.