Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Ddraig Goch, 1877.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1877, yn benaf, gan y Parch. R. Mawddwy Jones, Dolyddelen (America yn awr), ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. Humphrey Evans, cyhoeddwr, Bala. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Daliai y cylchgrawn hwn gysylltiad â'r Cymry sydd yn Patagonia, a rhoddai eu hanes, a chyhoeddai newyddion lawer o'r wlad hono. Dyna ei amcan blaenaf. Rhoddwyd ef i fyny ar ol oddeutu dwy flynedd.

John Jones, 1878.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1878, dan olygiaeth y Parch. E. Gurnos Jones, Porthcawl (Talysarn gynt), ac argrephid of gan Mr. Peter M. Evans, Talysarn. Cyhoeddiad o nodwedd ysmala a digrifol ydoedd. Deuai allan yn fisol, ond ni ddaeth allan ohono fwy nag ychydig rifynau.

Y Berllan Gymreig, 1879.—Daeth allan y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1879, a chychwynwyd ef gan y Parch. Richard Morgan, Aberdar, ac efe ydoedd yn ei olygu, ac yn ei gyhoeddi. Cyhoeddiad bychan rhad ydoedd, a deuai allan yn fisol, ond rhoddwyd ef i fyny ar ol ychydig rifynau.

Y Ceidwadwr, 1882.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Mehefin, 1882, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. J. Morris, High-street, Rhyl. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ei amcan, fel y gellid tybied oddiwrth ei enw, ydoedd amddiffyn a lledaenu egwyddorion Ceidwadaeth, ond ber a fu ei oes.

Briwsion i Bawb, 1885.—Math o gyhoeddiad wythnosol ydoedd hwn, a daeth ei rifyn cyntaf allan ar Rhagfyr 12fed, 1885, a chychwynwyd ef gan Mr. W. H. Jones, Turf-square, Caernarfon, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Ei bris ydoedd ceiniog. Cynnwysai "Chwedlau, Moes wersi, Difyrion,