Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hanesion, Llen-gwerin, Henafiaethau, Gwyddoniaeth, Barddoniaeth, Cynnildeb Teuluaidd," &c., ac yn sicr rhaid dyweyd ei fod yn geiniog-werth dda. Rhoddwyd ef i fyny oddeutu dechreu y flwyddyn 1886.

Efrydydd Phonographia, neu Cylchgrawn Llaw Fer, 1890.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1890, gan Mr. David W. Evans, Llanfyllin, ac efe hefyd sydd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Ei brif amcan ydyw lledaenu gwybodaeth am wahanol fanylion canghen y "Llaw-Fer," a rhoddi ymarferiad mewn darllen llaw-fer i'r rhai sydd eisoes yn ei medru. Mae yr oll o'r cylchgrawn hwn yn cael ei ysgrifenu yn ol cynllun Phonographia y Parch. R. H. Morgan, M.A., Porthaethwy. Ymddengys mai pedair ceiniog y chwarter ydyw y tanysgrifiad tuagat ei gael yn wastad, ond dywedir mai ychydig iawn, hyd yn hyn, ydyw nifer ei dderbynwyr.

Y Cymreigydd, 1890.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Mai 30ain, 1890, a chychwynwyd ef gan Mr. W. J. Parry, Bethesda, ac efe, yn benaf, oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. J. F. Williams, Bethesda. Golygid colofn farddoniaeth gan Mr. J. Gaerwenydd Pritchard, Bethesda, ac arolygid y golofn henafiaethol a chyfnodol gan Mr. J. M. Jones, o'r un lle, a cholofn yr ieuenctyd gan Mr. J. T. Parry, eto. Dywedai y cylchgrawn hwn, yn ei nodiadau eglurhaol am dano ei hun, nad ydoedd yn perthyn i'r un blaid neillduol—wladol nac eglwysig," ond ei fod yn gyhoeddiad cenedlaethol. Ond ni ddaeth allan ohono ond dau rifyn: y naill yn Mai, 1890, a'r llall yn Mehefin, 1890, a phris y rhifyn cyntaf ydoedd tair ceiniog, a phris yr ail ydoedd dwy geiniog.

Cwrs y Byd, 1891.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1891, dan olygiaeth y Parch. E. Pan