Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dydd," "Llyfrau Newyddion," &c. Gwelir felly fod y cyhoeddiad hwn yn addaw llawer, a bwriedir iddo fod yn un hollol genedlaethol, a diau fod ei amcan yn dda iawn, a mawr hyderir y bydd iddo ei gyrhaedd.

Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones, 1892.—Daeth y cylchgrawn hwn allan, yn ei wedd bresennol, yn Ionawr, 1892, dan olygiaeth y Parch. H. Elved Lewis, Llanelli, a Mr. T. C. Evans (Cadrawd), Llangynwyd, Bridgend, ac argrephir ef yn swyddfa y Meistri D. Williams a'i Fab, Llanelli. Mae yn hysbys mai cyfuniad ydyw y cylchgrawn hwn o Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones y ddau wedi priodi, ac yn dyfod allan fel un cyhoeddiad dan ffurf newydd. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw tair ceiniog. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydyw: "Aelwyd lân, a Gwlad lonydd." Ystyrir ef yn gylchgrawn misol at wasanaeth aelwydydydd Cymru. Er rhoddi syniad am ei amcan, dywed un o'r golygwyr yn y rhifyn am Ionawr, 1892:— "Gwelodd y flwyddyn ddiweddaf ddechreu oes cylchgrawn Mr. Owen M. Edwards, M.A.,-Cymru. Ni fu gerbron ein cenedl ddim byd tebyg iddo o'r blaen: ac ymddengys fel pe byddai i wroniaeth llenyddol gael anrhydedd yn ei ddydd y tro hwn, gan mor galonog yw ei dderbyniad. Ymfoddlonwn ni ar fod yn fath o attodiad iddo: a thra bydd Cymru yn ail-ennill i'n cenedl drysor cudd y gorphenol, ein gorchwyl ni fydd gyda'r presennol gan mwyaf, ac weithiau gyda'r byd tuallan i Gymru." Nid oes genym ond hyn i'w ddyweyd: os deil y cylchgrawn hwn, fel y cychwyna yn y flwyddyn 1892, bydd yn gyhoeddiad misol a haedda gylchrediad helaeth.

Y Mis, 1892.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Tachwedd laf, 1892, a chychwynwyd ef gan y Parch. J. Hughes, M.A., Lerpwl, ac efe hefyd