Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teyrngarwch llawer o'r Cymry i'w llenyddiaeth hwy eu hunain, ac yn beth all arwain i ganlyniadau annymunol. Mae pob gwlad mewn anghen llenyddiaeth o eiddo ei hunan cyn y gall iawn ddefnyddio llenyddiaeth gwledydd eraill, ac y mae gan bob cenedl nodweddion a theimladau neillduol nas gall neb eu dilladu mewn ysgrifau ond rhai o honynt hwy eu hunain. Credwn mai argraphwasg pob gwlad ei hunan all gyrhaedd y wlad hono oreu. Dylai y Cymry fod yn dra diolchgar fod ganddynt yr argraphwasg yn eu gwlad eu hunain, a chred wn mai y wasg Gymreig, yn ei gwahanol ganghenau, all gyrhaedd Cymru bellaf a dyfnaf. Cofier, er hyny, nad ydym o gwbl am i'r Cymry roddi heibio, cyn belled ag y bydd amgylchiadau yn caniatau, ddarllen llenyddiaeth gwledydd eraill; a'r gwirionedd ydyw fod yn rhaid i ni fod yn gynefin â llenyddiaeth sydd yn cael ei chyhoeddi gan genhedloedd eraill, yn arbenig ar rai canghenau, neu foddloni ar fod yn gyfyng; ond, er caniatau hyny, mae hanesiaeth yn dangos fod cenedl—unrhyw genedl—wrth ddibynu yn gwbl a hollol ar lenyddiaeth gwledydd eraill, yn graddol golli pob annibyniaeth meddyliol, ac yn graddol ddisgyn i adfeiliad a gwywdra. Bydded i bobl Cymru fod ar eu gwyliadwriaeth!

Mae dylanwad y wasg Gymreig wedi bod yn gryf a pharhaol ar ein gwlad. Bu yn un o'r cyfryngau mwyaf nerthol yn ffurfiad cymeriad y genedl--bu yn fodd inni hyrwyddo undeb yn mhlith y Cymry, ac i ddyfod â gwahanol adranau y boblogaeth i ddeall eu gilydd. Meddylier drachefn am yr hyn a wnaeth yn nyrchafiad cymdeithasol y bobl. Taflodd oleuni ar bethau dyrus a phethau a fuasent yn parhau yn dywyll, yn ol pob tebyg, oni buasai am dani hi. Mae ganddi ran helaeth hefyd yn sefyllfa bresennol cenedl y Cymry mewn moesau a chrefydd. Nid ydym, wrth hyn, yn anghofio