Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

DYLANWAD Y CYLCHGRAWN CYMREIG AR FYWYD Y GENEDL.

Yr ydym, yn awr, ar ol rhoddi hanes y cylchgronau Cymreig mor fanwl a chywir ag y gallem, hyd y mae hyny yn bosibl, yn prysuro yn mlaen i geisio cael allan eu dylanwad ar fywyd y Cymry. Diau y byddai yn fantais, cyn hyny, i ni wneyd ychydig nodiadau cyffredinol ar rai pethau a ystyriwn fel gwendidau a rhagoriaethau ynddynt, oherwydd mae yr elfenau hyny yn cyd wëu am danynt, ac y mae yn anmhosibl myned i mewn yn briodol i ddyfnder eu dylanwad—yn y naill gyfeiriad a'r llall—heb yn gyntaf cael syniad am y diffygion a'r rhagoriaethau a berthyn iddynt yn y cyfanswm ohonynt.

1. Diffygion. Rhaid i ni addef yn onest fod y ganghen hon o lenyddiaeth Gymreig, mor bell ag y gallwn ni farnu, wrth gymeryd i ystyriaeth boblogaeth fechan Cymru, ac nad yw rhif y darllenwyr yn or-luosog, &c., mewn sefyllfa led dda, yn enwedig wrth edrych arni yn ei gwedd gyffredinol. Clywir ambell un, ambell waith, yn dyweyd yn erbyn i'r gwahanol lwythau crefyddol yn Eglwysig ac yn Ymneillduol—gyhoeddi cylchgronau o'r eiddynt eu hunain; ond rhaid i ni ddatgan ein bod yn methu gweled gwir sail i'r gwyn hon, yn arbenig os na bydd y cylchgronau enwadol hyn yn taraw yn erbyn ein cylchgronau cenedlaethol, o'r hyn nid oes unrhyw debyg-