olrwydd gwirioneddol. Bu adeg, ysywaeth, na chymerid ac na chefnogid unrhyw gylchgrawn gan wahanol bobl Cymru, os na pherthynai yn hollol i'w llwyth crefyddol hwy eu hunain, er i'r cylchgronau a wrthodid fod yn llawer gwell, fel cylchgronau, na'r rhai a ddewisid. Adeg ddigon anhapus yn hanes ein gwlad oedd yr adeg hono. Ond, erbyn hyn, yr ydym yn gobeithio pethau gwell— mae wedi dyfod yn fwy o'r dydd, a gwyddom i sicrwydd fod llaweroedd o'r bobl yn y gwahanol lwythau yn derbyn, yn darllen, yn cefnogi, ac weithiau yn ysgrifenu i gylchgronau eu gilydd, ac y mae sail dros gredu nad yw hyn yn cael ei wneyd ar draul esgeuluso cylchgronau cenedlaethol teilwng. Ymddengys i ni yn beth hollol naturiol, gweddus, ac angenrheidiol—yn wyneb sefyllfa pethau-fod gan bob adran grefyddol eu cyhoeddiadau eu hunain. Pa niwed all fod yn hyn? Cofier eto, wrth wneyd y sylw hwn, ein bod yn golygu na bydd i'r rhai hyny atal ysgrifenwyr a darllenwyr rhag cefnogi y cyfnodolion cenedlaethol, oherwydd ystyriwn fod y rhai hyn yn werthfawr iawn, ac anffawd a fyddai i ddim ddigwydd i luddias eu mynediad yn mlaen. Nis gellir rhoddi gormod o bwys ar gael cylchgronau cenedlaethol fydd yn llenwi yr enw, ac, efallai, mai yn rhywle yn y cyfeiriad hwn y mae un o'r diffygion yn ein llenyddiaeth gyfnodol, er, mae yn rhaid addef, fod y rhai sydd genym eisoes yn haeddiannol o'r gefnogaeth wresocaf. Dymunem, yn garedig, ar i'r gwahanol gylchgronau a feddwn ddal i ennill tir, ac amcanu, os bydd amgylchiadau yn galw, at dori ambell i linell newydd. Nis gellir canmol llawer ar farddoniaeth bresennol ein cylchgronau, ac y mae yn amheus iawn genym a wna ddal i'w chydmaru â barddoniaeth ein cylchgronau oddeutu deugain mlynedd yn ol. Byddwn yn ofni fod gormod o unrhywiaeth yn y cyfnodolion —gormod ohonynt yn rhedeg yn nghyd i'r un cyfeiriad, tra