Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gadael rhai cyfeiriadau pwysig eraill heb eu cyffwrdd. Mae ein cenedl, erbyn hyn, yn estyn ei changhenau i gyfeiriadau newyddion—yn ymagor, ymledu, ac yn rhoddi camrau yn ei blaen—a dylai ein llenyddiaeth gylchgronol wylio symudiadau y genedl, a chyd-ddilyn os nad blaenori. Nid ydym am iddynt redeg ar ol pob awel, a dilyn pob gwynt i ba le bynag yr elo—pe felly, collid ymddiried ynddynt, a byddent yn anwadal a pheryglus i'w dilyn; ond, er hyny, credwn y dylent wasanaethu eu cenhedlaeth, a chyfaddasu eu hunain o'r newydd yn barhaus, os bydd gwir anghen, i gyfarfod yr agweddau newyddion a gymer y bywyd cenedlaethol. Caniataer i ni hefyd, yn yr yspryd goreu, gyfeirio ein bys at un diffyg sydd yn bygwth llawer ohonynt: nid ydynt yn ddigon nodweddiadol o'r amseroedd y maent yn byw ynddynt—dim digon o agosrwydd rhyngddynt â chwestiynau mawr eu dydd eu hunain! Onid ellir rhoddi unrhyw ddyddiad (date) uwchben rhai ohonynt? Dylai, yn sicr, fod argraph eu hoes yn ddyfnach ac eglurach arnynt. Gwyddom yn dda fod hyn, i raddau, yn codi oddiar ochelgarwch a gofal am gywirdeb maent mor awyddus i gadw eu hunain yn ddiogel, yn iach yn y ffydd, ac yn gochel pob gwylltineb a newydd-deb, nes, wrth osgoi un eithaf, y maent mewn perygl i syrthio i'r eithaf cyferbyniol. Mae y gochelgarwch hwn, ynddo ei hun, yn rhinwedd, ac yn beth i'w werthfawrogi, ond mae yn bosibl bod mor ochelgar nes bod yn ddôf, di-fywyd, ac oer!

2.—Rhagoriaethau. Gyda cael eu cyhoeddi yn lanwaith, destlus, ac yn cael gwisg allanol dda, yr hyn sydd yn glod i'r cyhoeddwyr, gellir dyweyd (a) eu bod, fel rheol, dan ofal dynion da fel golygwyr. Ymddengys i ni fod hyn yn beth o'r pwys mwyaf mewn gwahanol gysylltiadau. Cymeriad golygydd unrhyw gyhoeddiad, yn gyffredin, fydd yn penderfynu cymeriad ysgrifenwyr