Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cyhoeddiad hwnw, a chymeriad y naill a'r llall, i raddau pell, fydd yn penderfynu cymeriad ei ddarllenwyr. Nis gellir bod yn rhy ofalus pa fath ddynion a geir wrth lywy wasg yn mlynyddoedd dyfodol Cymru —bydd hyny yn arwydd lled gywir i ba gyfeiriad y bydd osgo y genedl. Nid ydym yn dyweyd nad allesid cael dynion mwy doniol, hoew, a medrus yn olygwyr ar rai o'r cylchgronau Cymreig, ac, efallai, y buasai yn dda cael cyfnewidiad mewn enghraipht neu ddwy, er, ar y cyfan, mai nid hawdd a fuasai gwella yn y rhan fwyaf ohonynt; ond, a gadael heibio y dalent olygyddol, fel y cyfryw, rhaid cydnabod, ac y mae yn llawenydd genym gael gwneyd, nad ydym yn gwybod am odid yr un o'r cylchgronau Cymreig a gyhoeddir ar hyn o bryd heb fod dan olygiaeth dynion o gymeriad uchel— cymeriad moesol cryf—a dynion nad oes yr un amheuaeth am eu cywirdeb, ac ystyriwn hon yn ffaith hynod hapus, a hir y parhao felly. Diau fod hyn yn cyfrif, yn un peth, am fod y cyfnodolion, gan fwyaf, ar delerau da a'u gilydd. Anfynych iawn yn eithriadol felly y ceir y naill gylchgrawn, erbyn hyn, yn enllibio y llall, nac yn gwneyd ymosodiadau brwnt, personol, ac annheg ar eu gilydd. Gwyddom eu bod, flynyddoedd yn ol, yn ddigon diffygiol yn hyn. Cedwir hwy yn awr ar dir da, wrth gymeryd pobpeth i ystyriaeth, rhag eiddigedd afiach at lwyddiant eu gilydd, neu o leiaf, anaml y ceir cyfeiriadau cyhoeddus at hyny, a diau, pe buasai y dolur yn ddwfn iawn, y buasem yn cael gwybod rhywbeth am dano. Yr ydym yn priodoli y pethau hyn, mewn rhan helaeth, i'r ffaith fod dynion da, doeth, a phenderfynol yn eu golygu. Cedwir allan ohonynt (b) ysgrifau isel, gwael, a di-amcan. Nid rhagoriaeth fechan, yn y cysylltiad hwn, yw rhagoriaeth nacaol. Addefwn, fel yr awgrymwyd yn barod, y ceir