Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/195

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ambell i ysgrif a rhifyn digon di-bwynt, di-yni, ac an-amserol, ond, er hyby, wrth eu cymeryd at eu gilydd, gellir dyweyd eu bod yn dda. Apelir yaddynt at deimladau goreu y darllenwyr, heb yr un ymgais at gyffroi syniadau gwylltion a di-lywodraeth mewn dynion. Mae ein cyfnodolion, mewn gwirionedd, wedi ennill cymeriad mor dawel, di-dramgwydd, a gwastad, fel y darfu i un ysgrif, yr hon a ymddangosodd yn un ohonynt, oddeutu dwy flynedd yn of [dechreu y flwyddyn 1890] beri cynhwrf a phryder drwy holl Gymru. Diau fod yr ysgrif hono yn un finiog a chyrhaeddgar, ac yn amlygu gallu diamheuol, a chredwn fod rhai adolygwyr wedi dangos ffolineb wrth geisio dyfalu pwy oedd yr awdwr, ac hefyd yn eu sylwadau eithafol arni, a diau y buasai yn fwy buddiol iddynt alw sylw at rai gwirioneddau a gynnwysid ynddi yn hytrach na chymaryd y ffordd a fabwysiadwyd ganddynt. Ni pherthyn i ni, modd bynag, roddi unrhyw farn ar yr ysgrif—nid dyna ein hamcan, ond yn unig dyfod a hyn yn mlaen i ddangos cymeriad cyffredinol ein cylchgronau: maent mor dawel, cyson, a chymedrol, fel yr oedd hyd yn nod ond un ysgrif, allan o'r ffordd gyffredin, yn achosi cynhwrf mawr trwy yr holl Dywysogaeth. Cyn myned at ddylanwad uniongyrchol y cylchgronau Cymreig, dylid cofio fod yn anmhosibl nodi terfynau hollol a chwbl eu dylanwad. Mae dylanwad yn rhywbeth mor ddwfn-dreiddiol fel nas gellir dilyn ei olion i'r llythyren, a dangos y llinellau terfyn, ac wrth i ni, yn y rhan ganlynol, ymdrin â dylanwad ein llenyddiaeth gylchgronol, mewn gwahanol adranau, bydd i ni wneyd hyny gan gofio fod dylanwad yn rhywbeth mor bellgyrhaeddol, mor ddwfn, mor anweledig, ac mor araf a graddol ei weithrediad, &c., fel nas gelir rhoddi bys arno yn mhob achos.