Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3. Dylanwad Llenyddol. Mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynu, i raddau helaethach nag y tybia llawer, ar pa fath lenyddiaeth gylchgronol a fydd ganddi. Dibyna parhad yr iaith, i raddau pell, ar ei llenyddiaeth—ac nid ydym yn sicr a ydyw y wedd hon ar y mater wedi cael y sylw a deilynga. Mae dylanwad llenyddol y cylchgronau Cymreig yn gryf: gellir edrych ar y cylchgronau Cymreig fel cryd i lenyddiaeth Gymreig yn gyffredinol, a gellir dyweyd am brif lenorion a beirdd Cymru mai ar feusydd hyfryd y cylchgronau hyn y darfu iddynt ddechreu ymsymud am y waith gyntaf erioed, fel y dylai ein gwlad fod yn ddiolchgar i'r cylchgrawn am fagu iddi ei phrif awduron. Hefyd, maent yn foddion i gynnyrchu chwaeth lenyddol yn y wlad—cefnogi y chwaeth hon— a'i chadw yn fyw. Dalient y Gymraeg gerbron y cyhoedd, ac wrth son am hyn, caniataer i ni gyfeirio at yr ysgrifau a'r dadleuon a geir ynddynt, yn enwedig yn y blynyddoedd hyn, ar yr Iaith Gymraeg. Mae yr ysgrifau diweddar dan y penawdau "Cymraeg Rhydychen" a "Llythyraeth y Gymraeg" (Mr. J. Morris Jones, M.A., Bangor), "Cymraeg yr oes hon" (Mr. John Rhys, M.A.), "Cymraeg Cymreig" (y Parch. J. Puleston Jones, B.A., Bangor), "Cymraeg Rhydychen" (Mr. Edward Foulkes, Llanberis), "Awgrymiadau ar y Gymraeg" (y Parch. Michael D. Jones, Bala), &c., wedi tynu sylw. Dalia y rhai a blaidient yr hyn a elwir yn "Gymraeg Rhydychen" y dylid sillebu ac ysgrifenu geiriau yn ol eu sain—rhodder ar lawr y llythyrenau sydd yn cynnrychioli y sain, ac yna dyna y gair ar lawr," na ddylid, wrth ysgrifenu, drafferthu yn nghylch tarddiad geiriau, ond eu cymeryd yn ol eu sain syml, a chadw at yr iaith fel y ceir hi ar lafar gwlad. Dalient "mai sain gair, yn hytrach na'i darddiad, a ddylai benderfynu ei sillebiaeth." Maent yn edmygu Cymraeg y Mabinogion,