Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a Chymraeg Dafydd ap Gwilym, ac yn credu y dylid canlyn eu Cymraeg. Ceir, ar y llaw arall, fod yr ysgrif- enwyr a wrthwynebant gyfundrefn Gymreig Rhydychain, yn dal na ddylid o gwbl gymeryd llafar gwlad yn safon iaith—nad yw hyny yn ddiogel, a bod i bob oes ei chwaeth, ei dull o feddwl, a'i phynciau ei hun," a bod "arddull mynegiant ieithyddol hefyd yn cyfnewid o oes i oes," ac felly nad yw yn ddoeth dal, yn yr oes hon, at eiriadaeth nac arddull Dafydd ap Gwilym na neb arall o'r henafiaid. Hyd yr ydym yn gwybod—rhywbeth i'r perwyl yna yw ystyr y ddadl o'r ddwy ochr. Nid ein gwaith ni, yn y cysylltiad hwn, ydyw helaethu ar y ddadl, ond yr ydym yn tueddu at y farn mai gwell a fyddai i rai o'r personau a amddiffynent "Gymraeg Rhydychain" beidio gwneyd cyfeiriadau mor bersonol wrth ddadleu dros eu cyfundrefn. Maent yn rhy barod i arfer cywair sydd braidd yn ddiraddiol wrth gyfeirio at hen lenorion a gramadegwyr Cymru, ac yn enwedig felly pan yn cyfeirio at Dr. W. O. Pughe. Dywedant nad oedd ganddo ef ond y nesaf i ddim dirnadaeth am gystrawen ac arddull," ac mai "casgliad o eiriau yn unig oedd iaith iddo ef," a dalient y dylid "dadbuweiddio" yr iaith, ac nad yw y Gymraeg bresennol ond "Puwiaeth" noeth, a galwent ei edmygwyr yn "Puwiaid," ac yn ddilynwyr crach ieithegol," &c. Cofier nid ydym yn datgan barn o gwbl yn y naill ffordd na'r llall—ar y mater mewn dadl, ond, ar yr un pryd, os ydyw yr ymdrafodaeth hon i gael ei chario yn mlaen, carem ar i'r amddiffynwyr hyn roddi heibio y dull hwn: nid oes unrhyw beth yn cael ei ennill drwyddo, a beth bynag a ellir ddyweyd am Dr. W. O. Pughe, mae ein cenedl dan ormod rhwymau iddo ef, ac eraill gydag ef, i'w galw ar enwau sarhaus o'r math hwn. Ond, er hyny, credwn fod y