Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dylanwad da cyfryngau eraill: rhaid cofio am y gwaith da oedd yn cael ei gario yn mlaen, yn ddistaw, gan ein cyn -dadau, ac erys dylanwad cryf gwahanol ddiwygiadau ar ein gwlad hyd heddyw. Cafodd y wlad ei deffro drwyddynt. Gwnaeth yr Ysgol Sabbothol lawer iawn gwnaeth ddigon i osod Cymru dan rwymau bythol iddi—tuagat oleuo y wlad. Nid oedd deffro gwlad yn ddigonol heb ei goleuo, ac, yn wir, gall deffroad fod yn niweidiol os na cheir goleuni cyfatebol i arwain ei ysgwydiadau i'r cyfeiriad priodol. Ond, wrth son am wahanol gyfryngau dyrchafiad y Cymry, rhaid cydnabod fod i'r wasg Gymreig safle anrhydeddus iawn. Pa fanteision sydd genym, yn gymdeithasol a chrefyddol, nad ydym yn ddyledus am danynt, mewn rhan, yn y naill ffordd neu y llall, i'r wasg? Gogoniant Cymru, er y cwbl, ydyw ei chrefydd, ac y mae dyweyd fod argraphwasg unrhyw wlad wedi bod yn fantais i grefydd у wlad hono yn golygu y clod uwchaf a ellir roddi i'r argraphwasg hono.

"Os myni weled prif ogoniant Cymru,
Nac edrych ar amrywiaeth nant a bryn,
Ond tyr'd yn mrig yr hwyr i ganol teulu
Diniwaid, duwiol, y bwthynod hyn,
Tra 'n emyn Maes-y-Plwm yn ymddifyru,
Neu 'n adgof pregeth swynol Talysarn;
Oes, oes, mae yma rywbeth ddeil i fyny
Pan ddawnsia 'r bryniau fry yn graig & charn
Ar encil distryw byth yn adsain udgorn barn."