Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ein gwlad, yn enwedig yn ei flynyddoedd cyntaf. Ymddangosodd lluaws o ysgrifau gwerthfawr yn Seren Gomer, yn ei blynyddoedd boreuol, a chredwn mai un nodwedd arbenig ynddi, o leiaf y pryd hwnw, ydoedd ei gwaith, fel cyhoeddiad crefyddol yn perthyn i enwad neillduol, yn rhoddi lle helaeth i ysgrifau ar henafiaethau cyffredinol, ac fel un enghraipht i ddangos hyny gellir nodi yr ysgrif a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror, 1837, ar "Arian Di-arddel," sef arian oedd yn gorwedd y pryd hwnw yn Ariandy Lloegr yn enwau personau a fuont yn byw yn Nghymru, y rhai a adawyd yno heb neb yn ymofyn yn eu cylch am flynyddoedd meithion, ac a ystyrid gan y rheolwyr, erbyn hyny, yn arian di-arddel. Yr oedd y wybodaeth a gynuwysid yn yr ysgrif hono, yn gystal ac yegrifau o'r fath, o'r gwerth mwyaf i bobl Cymru, yn enwedig yn yr hen amseroedd. Gwelir fod y cylchgrawn Cymreig wedi bod yn ffyddlawn i'r Ysgol Sabbothol:— cychwynwyd amryw-hen a diweddar-yn bwrpasol at ei galwadau, a diau eu bod yn gynnorthwy effeithiol i oleuo deall ein cenedl. Darfu i ysgrifau a holiadau y diweddar Barch Lewis Edwards, D.D., Bala, ar "Person Crist," y rhai a ymddangosent yn fynych yn Yr Arweinydd, dynu sylw, a gwyddom yr edrychir arnynt hyd heddyw, mown rhai manau yn Nghymru, yn mhlith y pethau goreu a ellir gael ar hyn. Mae y cyhoeddiad a elwir Y Lladmerydd yn prysur ennill sylw, a diau fod ysgrifau y ddau olygydd ar feusydd llafur neillduol (y naill ar gyfer y rhai mewn oed, a'r llall ar gyfer y plant), ac ysgrifau galluog y diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A., Trefecca, yn mhob rhifyn ohono-maent oll yn dra gwerthfawr, a diau eu bod, bob mis, yn cael eu darllen yn ofalus gan ddarllewyr coethaf y cyhoeddiad, ac yn dylanwadu ar eu dull o feddwl, a hwythau drachefn yn dylanwadu ar eu gwahanol gylchoedd, ac felly nis gellir dyweyd, gyda sicrwydd, yn