Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mha le y dybena dylanwad treiddiol yr ysgrifau hyn, a rhai tebyg iddynt mewn cyfnodolion cyffelyb, yn y cyfeiriad y maent, ar fywyd y genedl. Gwelir hefyd fod y cylchgrawn Cymreig wedi bod yn sylwgar o'r plant: dechreuodd gymeryd sylw o'r dosparth hwn yn fuan, ac y mae yn parhau i wneyd. Mae y rhan bwysig hon, yn ein Ilenyddiaeth gylchgronol, buasem yn tybied, mewn sefyllfa foddhaol, ac yn sicr nis gall plant y Cymry gwyno nad oes llenyddiaeth bwrpasol ar eu cyfer hwy, a hyny yn rhad a chyfleus. Dylai rhieni ein gwlad ei gwneyd yn bwynt i gefnogi y cyhoeddwyr a'r golygwyr ffyddlawn sydd yn arlwyo ar gyfer eu plant, a gobeithio y bydd i'r golygwyr barhau i wneyd y cyhoeddiadau hyn mor ddyddorol ag sydd yn bosibl i'r plant. Nid oes neb all draethu faint yw ôl y cylchgronau bychain hyn ar Gymru. Drwg genym mai ychydig a phrin yw rhif ein cylchgronau ar gyfer y chwiorydd, ac nid yw y rhai a fu ar y maes wedi cael y gefnogaeth a deilyngent. Mae yn anghlod oesol i ferched Cymru am adael i'r Gymraes gael ei rhoddi i fyny. Gwnaeth Ieuan Gwynedd ei oreu, a phriodol y dywedodd Caledfryn am dano:-

"Ei wlad, ei genedl, a'i iaith—a garai
Y gwron yn berffaith;
Gwell co' am dano a'i daith—fydd gweithiau
Ei awen, a'i eiriau na mynorwaith."

Ond er iddo ef wneyd a allai, bu raid rhoddi Y Gymraes i fyny, ac erbyn hyn, mae y Frythones wedi cael ei rhoddi heibio, fel, ar hyn o bryd (1892), nad oes genym yn yr iaith yr un cylchgrawn yn gyfangwbl at wasanaeth y rhyw fenywaidd. Ond, gwnaeth Y Gymraes a'r Y Frythones waith da mewn oes fer: ceisient wella a dyrchafu merched ein gwlad mewn pethau ymarferol, megis gwnio, coginio, dilladu, rheolau iechyd, &c., pethau ag y