Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gwelwn fod pwyllgor y symudiad hwn yn Llundain, wedi dewis "Y Seren Dlos" (Mr. D. Jenkins), "Ffarwel i ti, Gymru fad" (Dr. Parry). "Y Gwlithyn" (Alaw Ddu), a "Deled dy Deyrnas" (Mr. Emlyn Evans), i'w canu yn y Palas Gwydr yn Gorphenaf, 1891, pryd yr oedd Solffawyr o bob rhan o'r deyrnas yn bresennol. Da genym fod ein cyd-wladwyr cerddorol wedi cael y deyrnged hon, ac ystyriwn hyn yn anrhydedd i Gymru. Yr ydym yn priodoli yr agwedd hon ar sefyllfa cerddoriaeth yn ein gwlad, mewn rhan helaeth, i ddylanwad ein cylchgronau cerddorol, Caniataer i ni, ar yr un pryd, wneyd un sylw ar hyn: ofnir nad yw ein cerddorion ieuainc—aelodau corawl—yn darllen ond ychydig iawn ar lenyddiaeth y gelfyddyd gerddorol, a'r canlyniad ydyw mai lled arwynebol yw gwybodaeth y mwyafrif o'r rhai a alwant eu hunain yn gerddorion yn Nghymru. Ystyrir y Cymry, fel lleiswyr, yn sefyll ar y blaen; ond fel offerynwyr, cyfansoddwyr, a cherddorion damcanol, yr ydym yn bell iawn ar ol i amryw wledydd ar y Cyfandir. Nid oes genym, a siarad yn gyffredinol, un math o ddirnadaeth am y maes eang o gerddoriaeth offerynol ag sydd yn adnabyddus i genhedloedd eraill, ac y mae hyn yn anfantais arianol i'n gwlad, heb son am yr anfanteision cymdeithasol sydd yn canlyn. Credwn yn sicr y dylai ein cantorion, yn enwedig y rhai ieuainc ohonynt, ddarllen mwy ar ein cylchgronau cerddorol, a diau y gwna hyny agor eu deall ar lawer pwynt ag sydd yn awr yn dywyll iddynt, ac nid hollol an-amserol, efallai, a fyddai gwasgu y pwysigrwydd ar fod i ysgrifenwyr i'r cylchgronau cerddorol hyn ymdrechu fwy-fwy yn nghyfeiriad arddull lenyddol gywir a chyfaddas, a gwneyd eu cylch. gronan yn gymaint o allu cerddorol ag sydd bosibl. Gellir dyweyd, mewn ystyr gyffredin, fod ein cylchgronau boreuol am yr haner cyntaf o'r ganrif hon—lawer