Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ohonynt—yn debyg i feusydd rhyfel, yn llawn ffrwydriadau, tân, ergydion, mwg, cleddyfau, &c. Ofnwn, ar un llaw, fod y brwydro hwn, yn benaf ar faterion crefyddol ac athrawiaethol, wedi gwneyd peth niwaid, a bod ei ddylanwad er drwg mewn llawer ffordd; ac eto, ar y llaw arall, credwn fod rhai gemau ardderchog wedi dyfod allan o'r rhyfeloedd hyn, a diau eu bod, i raddau helaeth, wedi bod yn achlysur i gynnyrchu llawer o ymchwiliadaeth Feiblaidd yn ein gwlad, a pheri i lawer gymeryd dyddordeb mewn materion o'r fath, na buasent yn cymeryd dyddordeb ynddynt, efallai, pe heb y brwydrau cylchgronol. Credwn fod gan y dadleuon hyn ar faes y cyfnodolion boreuol Cymreig—ar wahan i'w teilyngdod neu eu annheilyngdod—lawer iawn i'w wneyd â'r ffaith fod cenedl y Cymry yn hynod am ei duwinyddiaeth, ac am ei gwybodaeth Ysgrythyrol. Rhaid hefyd fod ysgrifau diweddar "Y Pahamau," y rhai a ymddangosent yn Y Geninen, yn foddion arbenig i oleuo syniadau y naill lwyth crefyddol am olygiadau y llall. Gall penawdau fel "Paham yr wyf yn Annibynwr," "Paham yr wyf yn Armin,' "Paham yr wyf yn Fedyddiwr," a "Phaham yr wyf yn Fethodist Calfinaidd," &c., fod braidd yn dramgwyddus chwaeth lednais, a gallent, os na chymerir gofal neillduol, fod yn foddion i ail-agor hen archollion; ond, ar y cyfan, credwn fod tuedd yn yr ysgrifau hyn i wneyd lles, yn yr ystyr o eangu ein syniadau am ein gilydd, goleuo ein deall am wir natur ein gwahanol safleoedd. Prin y buasai yn weddus ynom, yn y cysylltiad hwn, fyned heibio yn ddisylw i'r hen gyhoeddiad clodfawr Y Truethodydd, ymddangosiad cyntaf yr hwn yn Ionawr, 1845, nid yw yn ormod dyweyd, a fu yn foddion i greu cyfnod newydd yn hanes Cymru mewn llenyddiaeth gylchgronol. Meddylier