Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/206

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am gael ysgrifau, ar y pryd hwnw, gan rai o oreugwyr y genedl, ar faterion tebyg i'r rhai canlynol:-"Athroniaeth Bacon," "Hanes yr Eglwys yn Geneva," "Ysprydoliaeth yr Ysgrythyrau," "Robert Hall," "Horæ Paulinae," "Bywyd a Barnau Dr. Arnold," "Gwefrhysbysydd." "Y Diwygiad Crefyddol yn Germany," "William Salesbury," "Maynooth," "Crefydd yn Ffrainc," "Athroniaeth Kant," "Newton," "Duwinyddiaeth Rhydychain," "Canton de Vaud," "Y Jesuitiaid,"Plato," "Y Campau Olympaidd," "Y Chwyldroad yn Ffrainc," &c.,—nis gall neb ddyweyd, hyd heddyw, pa mor ddwfn i fywyd deallol y genedl yr oedd dylanwad y fath erthyglau yn suddo. Diau fod i'r fath ysgrifau eu dylanwad ar arddull lenyddol y wlad hefyd. Mewn trefn i gael syniad cywir am ddylanwad y cyhoeddiad hwn dylid cofio beth oedd sefyllfa y genedl mewn gwybodaeth ar adeg ei ymddangosiad, prinder manteision dysg, newydd-deb y meusydd, &c.. ac anturiwn ddyweyd yn ddi-ysgog, heb ofni methu, fod rhwymau cenedl y Cymry i'r Traethodydd, yn arbenig yn ei flynyddoedd cyntaf, yn fawr iawn, a'i fod wedi cyflawni y fath wasanaeth iddi, yn ei ddylanwad deallol, ag sydd yn ei gosod dan rwymau bythol iddo. Nid oes genym ond cymhell yr holl gyfnodolion hyn i fyned yn mlaen, ac i arlwyo eu cynnwys yn ol gwir anghenion yr amseroedd, i lenwi eu tudalenau â gwybodaeth, goleuni, a sylwedd, ac yna ni raid iddynt ofni y canlyniadau. 5. Dylanwad Cymdeithasol a Moesol.-Nid oes amheuaeth nad yw ein cyfnodolion wedi, ac yn gwneyd llawer tuagat ddyrchafu Cymru yn gymdeithasol a moesol, ac yr ydym yn defnyddio y geiriau cymdeithasol " a "moesol " yn yr ystyr eangaf. Da iawn genym allu credu fod y cylchgronau Cymreig, fel rheol, wedi bod yn adgyfnerthiad i foesoldeb a rhinwedd, ac yn gefnogaeth i ymdrechion