Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Geninen: ceir ysgrif ganddo yn y rhifyn am Gorphenaf, 1885, ar "Philistiaeth yn Nghymru," yua ar "Philistiaeth yn Nghymru" yn y rhifyn am Ionawr, 1887, ac yn y rhifyn am Ionawr, 1888, ar "Mr. Spurgeon a'r Philistiaid," ac yn olaf ceir ysgrif ganddo yn y rhifyn am Ionawr, 1890, ar "Philistiaeth Enwadol Cymru," ac nid gormod ydyw dweyd fod yr ysgrifau hyn, yn enwedig yr olaf ohonynt, wedi siglo Cymru grefyddol. Gwnaeth gynhwrf drwy ein gwlad oll, a bu yn destyn siarad yn mhob cylch. Addefir fod yr ysgrif yn finiog, yn gref, yn ysgubol, ac er fod gwahaniaeth barn yn nghylch doethineb neu annoethineb ei chyfeiriadau, eto ofnir y gall fod gormod o sail i lawer o'r cyhuddiadau, a chan ei bod yn ymwneyd, fel y gwyddis, yn benaf, a phennaethiaid crefyddol Cymru, ac nid yn gymaint â'r bobl gyffredin, barna rhai y gall wneyd peth lles i'r dosbarth hwnw trwy dynu oddiwrthynt rai pethau ag ydynt yn dueddol i bobl mewn safle uchel; ond, ar yr un pryd, rhaid i ni ddatgan ein crediniaeth fod "Siluriad" wedi tynu gormod o gasgliadau cyffredinol oddiwrth enghreiphtiau unigol, ac felly wedi cymeryd llawer mwy nag y dylid yn ganiataol, a chredwn y buasai ei ysgrif yn gryfach pe yn llai eithafol. Nis gellir gwadu nad yw dylanwad y cylchgronau Cymreig yn gryf iawn yn yr ystyr o fod yn fyneg-byst hyd yn nod i rai a dybient eu hunain yn arweinwyr y genedl. Beth am yr ysgrifau dan y penawd "Nyth y Dryw," a "Cynnadledd yr Adar," y rhai a ymddangosent yn Y Cylchgrawn rai blynyddoedd yn ol Darfu i'r ysgrifau hyn, er nas gellid cymeradwyo pobpeth ynddynt, godi ofn a braw mewn ambell gornel o'r gwersyll crefyddol, a sonir am danynt, yn enwedig yn y Deheudir, hyd heddyw. Darfu i ysgrif y Parch. T. Roberts (Scorpion), Llanrwst, yn Y Dysgedydd am Tachwedd, 1848, ar "Ocheneidiau y Weinidogaeth," beri cynhwrf, ar y pryd, drwy y Dywysogaeth: amcan