Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ysgrif oedd dangos cyflwr dirywiedig gweinidogaeth a diaconiaeth eglwysi ein gwlad, a diau iddynt fod yn effeithiol, mewn rhan fawr, i ddeffro y wlad i'w sefyllfa yn y pethau hyn. Mewn cylchgrawn—Yr Ystorfa Weinidogaethol—y darfu i'r Bedyddwyr yn Nghymru gyhoeddi eu "Llythyr Cymanfa" gyntaf erioed, yr hyn, yn awr, sydd yn allu cryf yn mhlith yr enwad hwnw. Dywedir fod ein cenedl dan rwymau i'r cylchgronau am rai o'r emynau mwyaf poblogaidd sydd ganddi. Ceir, er enghraipht, mai yn y cyhoeddiad boreuol bychan a elwid Yr Addysgydd yr ymddangosodd gyntaf erioed yr emynau adnabyddus sydd yn dechreu:-

"O Salem! fy anwyl gartrefle," &c.,
"O drigfan deg dawel a dedwydd," &o.,
"Mae yno gantorion ardderchog," &c.,

gydag enw "D. Charles, ieu.," wrthynt, a cheir hwynt, erbyn hyn, bron yn mhob Llyfr Hymnau Cymreig. Nis gellir myned heibio yn ddisylw i ddylanwad da y cyhoeddiad bychan a elwid Y Geiniogwerth, yn enwedig ei ddylanwad yn nglyn â phobl ieuainc yn eu rhag-gyfeillachau, &c., a diau iddo wneyd llawer er hyrwyddo purdeb cymdeithasol yn mhlith ieuenctyd Cymru. Ceid ynddo lythyrau, ar y pethau hyn, oddiwrth rai o oreugwyr y genedl, megis y Parchn. James Hughes, Llundain; John Hughes, Pontrobert; W. Charles, Gwalchmai, &c.; ac y mae yn sicr fod llythyrau "Yr Hen Wr Mynyddig," i'r un cyfeiriad, yn dderbyniol. Dymunem ofyn, gyda llaw, onid ellir disgwyl mwy oddiwrth gylehgronau Cymreig yn nglyn a phethau tebyg i burdeb cymdeithasol. Gwir bod eisieu goleuo y deall, ond credwn mai da, i raddau helaethach nag y gwneir, a fyddai rhoddi mwy o sylw i foesoldeb ymarferol y genedl. Nid ydym, cofier, yn dal fod dylan-