Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wad y cylchgronau Cymreig, yn mhob achos wedi bod yn dda ofnwn, ysywaeth, nas gellir ystyried y dylanwad fel o'r math uwchaf yn mhob enghraipht. Gadawer i ni, er egluro hyn, gyfeirio at rifyn am Rhagfyr, 1842, o'r cyhoeddiad a elwid Yr Haul, yn mha un y ceir llythyr gan "Peiriannydd" at y diweddar Barch. D. Reee, Llanelli, ag sydd yn llawn o'r ensyniadau mwyaf personol ac angharedig. Hefyd, yn yr un rhifyn, ceir erthygl ar "Griffiths, Horeb, a Golygydd Y Diwygiwr," a drwg genym weled fod yr ysgrif mor lawn o gyfeiriadau iselwael at y person a enwir yn y penawd, yn gystal a phersonau parchus eraill oedd yn byw ar y pryd, fel nad allai lai na chael argraph annymunol ar y wlad, a bod yn ymborth ac yn feithriniad i chwerwder yspryd rhwng y naill blaid a'r llall. Darfu i'r ysgrifau ar "Bugeiliaid Eppynt," y rhai a ymddangosent yn Yr Haul, oddeutu y flwyddyn 1842, dynu sylw mawr ar y pryd. Math o ysgrifau oedd y rhai hyn ar ffurf ymddiddanion gan wahanol bersonau a elwid Ifor, Idwal, Llewelyn, a Siencyn. I ddangos, fel un enghraipht, nator a rhediad yr ymddyddan hwn, nodwn y pennill canlynol, yr hwn a roddwyd, yn ystod yr ymddiddan, yn ngenau gwr parchedig oedd yn weinidog enwog, ar y pryd hwnw, gyda'r Annibynwyr:—

"Plays, Plays,
'Rwyf gyda 'r rhai 'n yn rhoi fy llais,
Oberwydd arian yw fy nghais;
Aed crefydd Orist ar ffo i'r byd,
'Rwyf wedi penderfynu 'nawr
Wneyd ooden fawr-hyn yw fy mryd."

Addefwn fod yr ysgrifau ar "Bugeiliaid Eppynt" yn dangos gallu, yn arbenig y gallu i fod yn finiog a chyrhaeddgar, a gwyddom eu bod wedi cael sylw mawr