Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nghymru ar yr adeg hono; ond, er hyny, ofnwn nad oedd eu tuedd, a dyweyd y lleiaf, i adael y dylanwad goreu ar y wlad. Credwn, ar yr un pryd, fod rhai ysgrifau campus wedi ymddangos yn Yr Haul yn ei flynyddoedd boreuol, ac wedi hyny hefyd, ac, fel enghraipht eto, gellir nodi yr hyn a elwid "Y Feirniadaeth Gymreig," gan Caledfryn, a ymddangosodd yn y rhifyn am Rhagfyr, 1842, ac anturiwn gredu fod yn y feirniadaeth alluog hono rai elfenau y buasai yn dda eu cael yn meirniadaethau llenyddol y dyddiau diweddaf hyn. Pan gychwynwyd Y Bedyddiwr, yn y flwyddyn 1841, ymddangosodd llythyrau beirniadol arno (Y Bedyddiwr) yn Yr Haul, y rhai a ysgrifenwyd, i bob golwg, gan Brutus. Aeth yn ddadl, rhywfodd neu gilydd, rhwng Brutus (golygydd Yr Haul) a'r Parch. John Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Llangollen, a gelwid ef weithiau yn "Jones, Llangollen" (perchenog a golygydd Y Bedyddiwr dywededig), ac ysgrifenwyd pethau gan y naill am y llall ag ydynt yn anurddo llenyddiaeth Gymreig—mor chwerw, cïaidd, ac isel. Mewn canlyniad i lythyrau Brutus yn Yr Haul, darfu i Mr. Jones gyhoeddi llythyr dan y penawd "Brad y Droch," yn yr hwn y ceir rhai o'r cyfeiriadau iselaf a mwyaf personol, ac wele dri englyn, allan o amryw, ag ydynt yn dybenu y llythyr ganddo "I'r Haul a'i Olygydd":—

"Haul erohyll, tywyll bob tu—wael effaith
A Haul uffern bygddu,
Euogddwl Haul y fagddu,
Haul y d——l, dyma Haul du!

"Yn lle Haul pa wall yw hyn?—O, cawsom
Beth easaidd a gwrthun;
Ryw sachlen flew, dew, yn dyn,
B——w Brutus ar bob bretyn.