Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwleddoedd a geir wrth gladdu—hen gelain
Arch-wrthgiliwr Cymru;
Dewr waith i'w lywodraethu
Yn ei dwll gaiff angeu du!"

Braidd nad yw y gweddill o'r englynion yn waeth eto, ond dyna ddigon ar unwaith i ddangos natur y ddadl, ac yn enghraipht o'r yspryd yn mha un y cerid hi yn mlaen, ac yr ydym yn sicr fod cario dadl yn mlaen, yn enwedig ar fater cysegredig, yn yr yspryd a geir yn y llinellau uchod, yn beth hollol annheilwng, ac yn rhwym o gael dylanwad niweidiol ar y wlad. Dylid cydnabod, ac yr ydym yn gwneyd hyny gyda llawenydd, mai eithriad ydoedd i ddadl gymeryd gwedd mor annymunol yn ein cylchgronau, ond eto ceir fod ambell un yn gollwng ei hunan i yspryd anmhriodol wrth ddadlu hyd yn nod ar athrawiaethau crefydd. Ceir fod dadl faith wedi ei chario allan ar faes Seren Gomer, am y blynyddoedd 1822-3, ar "Iawn Crist," gan amryw ysgrifenwyr a alwent eu hunain yn "Silas," "Uwch-Galfiniad," "Aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd," "John Jenkins, Hengoed," "W. Jones, Pwllheli," "Mab Dewi Ddu," "Edeyrn Môn," "John Roberts, Llanbrynmair," &c., a gwnaeth gynhwrf mawr yn y wlad, ac nid ydym yn sicr na ddywedwyd rhai geiriau y buasai yn well iddynt fod heb eu dweyd. Llawer iawn o ysgrifau a fu yn nglyn â'r dadleuon ar "Fedydd" rhwng Evans ac Aubrey, rhwng rhai o'r Bedyddwyr â'r Feibl Gymdeithas, ac yn nghylch cywirdeb "Hanes y Bedyddwyr," gan y Parch. D. Jones, Caerfyrddin, &c., a gwnaethent gynhwrf. Darfu i wahanol ddadleuon cylchgronol y blynyddoedd gynt, beri i Mr. Richard Jones, Wern, gyhoeddi llyfr a elwid Drych y Dadleuwr, a dywedir ei fod yn un o'r llyfrau bychain Cymreig a greodd fwyaf o gyffro yn ein gwlad. Ysgrifenwyd