Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/216

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn gwahanol ystyron—masnachol, llenyddol, addysgol, cymdeithasol, a chrefyddol Gwir fod Môr y Werydd rhyngom ond nis gall hyny wahanu ein cig a'n gwaed ein hunain, ac nis gall tonau gwylltion y cefnfor hollti gwythienau ein bywyd cenedlaethol. Yr ydym yn un, ac anffawd o'r fwyaf a fyddai i'r naill feithrin teimlad estronol tuagat y llall, ac y mae yn ddyledswydd orphwysedig ar Gymry y ddwy wlad i gadw yr undeb yn rhwymyn cariad. Da iawn genym weled fod y Cymry yn y Gorllewin, i raddau pell, yn parhau i ddal eu gafael mewn llenyddiaeth Gymreig: dylai hyn fod yn destyn llawenydd i ni oll, a dylai y fam-wlad wneyd ei goreu i gefnogi eu llenyddiaeth Gymreig hwythau.

1.—NEWYDDIADURON.

Cyn cychwyn gyda'r newyddiaduron hollol Gymreig, efallai mai da a fuasai rhoddi gair ar hanes un newyddiadur a gyhoeddir haner-yn haner-haner yn Gymraeg, a haner yn Seisonig yr hwn a elwir Columbia, a chychwynwyd ef yn mis Gorphenaf, 1887, gan Gwmni Cymreig yn Emporia, Kansas, dan olygiaeth y Parch. W. D. Evans, Emporia. Daw allan yn wythnosol ar ddydd Iau. Ei bris ydyw $2.00 y flwyddyn. Trysorydd ei gwmni ydyw Mr. W. J. Jones, Swyddfa y Columbia, Chicago. Symudwyd ef, yn mis Awst, 1891, i gael ei argraphu yn Chicago, Illinois, sef dinas Ffair Fawr y Byd. Darfu i'r Parch. W. D. Evans roddi i fyny ei olygiaeth oddentu dechreu y flwyddyn 1891. Ymddengys ei fod yn newyddiadur defnyddiol, ac yn cael cylchrediad da, ac yn ennill tir diogel yn gyflym.

Cymro America, 1832.—Cychwynwyd hwn yn nechreu y flwyddyn 1832, dan olygiaeth Mr. J. A. Williams (Don Glun Towy), a'i bris ydoedd $2.00 y flwyddyn. Yn bymthegnosol y deuai allan, ac ymddengys mai cychwyniad