Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Meistri G. H. Humphrey, M.A., a J. C. Roberts, Utica, ond yn bresennol golygir ef gan Mr. Benjamin F. Lewis, Utica. Ystyrir ef fel newyddiadur cenedlaethol y Cymry yn America, a llawenydd i ni ydyw deall ei fod yn cael cefnogaeth dda, oherwydd credwn ei fod yn llwyr deilyngu hyny.

Y Cymro Americanaidd, 1853.—Cychwynwyd hwn yn mis Mai, 1853, gan Mr. John M. Jones, New York, ac efe hefyd oedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Ceid, ar dechreu, golofn ynddo yn yr iaith Seisonig, ond rhoddwyd hyny heibio yn fuan, a chyhoeddid ef yn gwbl yn Gymraeg. Byddai y rhai a ystyrid fel yr ysgrifenwyr Cymreig goreu yn yr America yn arfer ysgrifenu, ar un adeg, i'r newyddiadur hwn. Gellid enwi, yn mhlith eraill, y rhai hyn: Eryr Meirion, Eryr Glan Taf, Eos Glan Twrch, B. F. Lewis, a'r Parchn. John P. Harris, John Edred Jones, John M. Thomas, R. D. Thomas, &c., ac yr oedd iddo, y pryd hwnw, gylchrediad eang iawn.

Y Gwyliedydd Americanaidd, 1854.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1854, gan Gwmni Cymreig, dan olygiaeth y Parch. Robert Littler, South Trenton, New York, a dilynwyd ef, fel golygydd, gan y Parch. Morgan A. Ellis, Utica. Argrephid of gan Mr. Evan E. Roberts, Utica. Ei bris ydoedd dolar y flwyddyn. Unwyd ef, yn y flwyddyn 1855, â'r Drych, ond rhoddwyd ef i fyny yn gwbl yn niwedd y flwyddyn 1858.

Baner America, 1868.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1868, gan Gwmni Cymreig yn Hyde Park, Pa., a'r golygwyr cyntaf oeddynt y Parchn. Morgan A. Ellis, Frederick Evans, David Parry (Dewi Moelwyn), a Henry M. Edwards yn gweithredu fel trefnydd (manager). Bu iddynt hwy ar ol peth amser, ymneillduo o'r olygiaeth, a darfu i'r