Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pwyllgor bennodi Mr. Thomas B. Morris (Gwyneddfardd) yn olygydd, a Mr. W. S. Jones yn drefnydd, a chyhoeddid ef yn Seranton, Luzerne Co., Pa. Denai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd $2.00 yn flynyddol. Rhoddwyd of i fyny yn y flwyddyn 1877. Cyfrifid ef yn newyddiadur da, ac o nodwedd genedlaethol.

Y Wasg, 1871.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1871, gan Gwmni Cymreig yn Pittsburgh, a'r Cwmni hwn oedd yn ei gyhoeddi, ei olygu, ei argraphu, &c. Daeth, ar ol hyny, yn eiddo i Mr. R. T. Daniels, Pittsburgh, ac un neu ddau eraill, a byddai Mr. Daniels ei hunan yn ei olygu. Ei bris ydoedd $2.00 yn y flwyddyn. Yn y flwyddyn 1890, modd bynag, unwyd y newyddiadur hwn i'r Drych, ac felly y parha i ddyfod allan hyd yn bresennol. Ond, er hyn, teg ydyw hysbysu nad yw perchenog Y Drych yn dal dim megis ond enw Y Wasg yn nglyn a'r Drych, gan fod y diweddaf wedi cymeryd yr oll iddo ei hun, ac anfonwyd Y Drych i bob danysgrifwyr Y Wasg hyd derfyn adeg eu tanysgrifiad. Dylid egluro yn y fan hon, gan y dichon fod rhai heb wybod, mai i danysgrifwyr yn unig yr anfonir y newyddiaduron a'r cyfnodolion Cymreig yn yr America. Nid ydynt i'w cael, fel rheol, ar fyrddau llyfrwerthwyr, ac nid ydynt yn cael eu gwerthu ar yr heolydd, a diau fod rhesymau, neiliduol dros hyn.

Y Dravod, 1891.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Ionawr 17eg, 1891, a chychwynwyd ef gan Mr. Lewis Jones (Caernarfon gynt), Patagonia, ac efe hefyd yw ei berchenog, ei olygydd, a'i argraphydd. Newyddiadur wythnosol ydyw yn cynnwys pedair tudalen, a'i bris ydyw 25 cents, yr hyn sydd yn gyfartal i swllt o'n harian ni, pan fydd yr aur at par, ond yn gyffredin ni chyrhaedda fwy na chwech neu naw ceiniog. Cychwynwyd ef er mwyn gwasanaethu y