Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymry yn Patagonia, ac ar rai cyfrifon, mae yn syndod ns buasai gan y Wladfa newyddiadur at ei gwasanaeth ei hun er's llawer blwyddyn cyn hyny. Dywed y golygydd, yn y rhifyn cyntaf, mai "penav amcan Y Dravod vydd gwasgar dylanwad darllen a meddylio drwy ein cymdeithasiad Wladvaol hon. . . . . Diau hevyd y bydd ein materion gwleidyddol yn galw am amldravodaeth, yn yr hyn y mae llawer o waith dysgu ar ein pobl—nid yn unig ein gwleidyddiaeth vel rhan o'r Weriniaeth, eithr hevyd amrywiol weddau ein gwleidyddiaeth leol—yn lleodrol, gwmnïol, a masnachol." Cynnwysa erthygl arweiniol bob wythnos ar fater yn dal perthynas â dadblygiad y Wladfa, crynodeb o newyddion cyffredinol, hanesion am ddygwyddiadau lleol, cyfarfodydd, gwersi gwyddonol, nwyfelaeth, gohebiaethau, &c. Nid yw ei gylchrediad ond cyfyng, a chwynai ei olygydd, ychydig wythnosau ar ol ei gychwyn, ei fod braidd yn siomedig yn hyn. Gwir fod newyddiaduron Cymreig eraill wedi cael eu cyhoeddi yn yr America, megis Seren Oneida (yr hwn a barhaodd dros ystod y blynyddoedd 1848-9), Yr Amserau (yr hwn a ymddangosodd dros ychydig yn y flwyddyn 1860), Y Pwns Cymreig (a fu byw dros flynyddoedd 1876-8), a Cyfaill yr Aelwyd, &c.; ond darfu iddynt oll fachludo yn fuan. Gellir dyweyd mai un rheswm dros fod amryw o'r rhai hyn, gydag ychydig eraill, wedi cael eu rhoddi i fyny mor fuan, ydoedd eu bod yn tueddu at bleidio yr yspryd democrataidd, a barnai rhai, ar y pryd, mai eu prif amcan ydoedd gwanychu a gwrthwynebu Gweriniaeth; a chan eu bod hwy felly, yn sicr nid America ydoedd y wlad iddynt lwyddo ynddi, a derbyniad oeraidd a gafodd rhai ohonynt gan ein cyd-genedl. Addefwn mai nid hwn ydoedd y rheswm dros fachludiad yr oll o'r newydd-