Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/221

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaduron Cymreig yn y Gorllewin, oherwydd sicrheir fod syniadau gwleidyddol Y Wasg, er enghraipht, yn hollol iachus a derbyniol, fel mae yn rhaid mai rhesymau eraill sydd i'w rhoddi dros roddi y newyddiadur hwnw i fyny, a dichon fod hyny yn ffaith am rai eraill; ond, yn sicr, gallwn ddyweyd, fel gosodiad cyffredinol, mai nid yr America yw y wlad i gefnogi newyddiaduron os bydd arlliw wrth-werinaidd arnynt.

2.—CYLCHGRONAU

Dylid, efallai, cyn dechreu sylwi ar y cylchgronau hollol Gymreig, wneyd cyfeiriad at y cylchgrawn a elwir The Cambrian, yr hwn a gychwynwyd yn y flwyddyn 1880, gan y Parch. D. J. Jones, Cincinnati, a chyhoeddid ac argrephid ef, y pryd hwnw, yn Cincinnatti, Ohio. Yn y flwyddyn 1886, modd bynag, prynwyd y cyhoeddiad hwn gan y Parch. Edward C. Evans, M.A., Remsen, Oneida Co., ac argrephir ef yn bresennol gan Mr. T. J. Griffith, Exchange Buildings, Utica. Yn yr iaith Seisonig y cyhoeddir y cylchgrawn misol hwn, er mwyn bod at wasanaeth y Cymry Americanaidd, ac ystyrir ef yn genedlaethol o ran natur ei gynnwys. Ceir llawer ynddo o'r crefyddol, hanesyddol, gwybodaeth gyffredinol, &c., a diau ei fod yn cyflawni gwasanaeth gwerthfawr iawn.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad, 1838.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn mis Ionawr, 1838, a chychwynwyd ef yn gwbl gan y Parch. William Rowlands, D.D., Utica, ac efe hefyd ydoedd ei berchenog a'i olygydd. Cylchgrawn misol ydoedd hwn, hollol Gymreig, ac, ar y dechreu, yn gwbl rydd, heb berthynas rhyngddo âg umhyw blaid—wladol na chrefyddol &c. Ei amcan penaf, wrth gychwyn ydoedd, gwasanaethu crefydd a llenyddiaeth yn mhlith cenedl y