Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/222

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymry yn yr America. Cynnwysai, ar y dechreu, oddeutu deuddeg-ar-hugain o dudalenau wythplyg, a helaethwyd ef i gynnwys deugain tudalen, a'i bris ydoedd $2 00 yn flynyddol. Bu yn byw mewn gwahanol ffurfiau allanol, ac argrephid ef mewn gwahanol swyddfeydd yn New York, Utica, a Rome, &c., a hyny yn ol symudiadau gweinidogaethol ei olygydd enwog. Yr oedd yn benderfyniad gan Dr. Rowlands, cyn cychwyn o Gymru, i wasanaethu ei gyd-genedl yn y Gorllewin pell, os gallai, drwy y wasg, a darfu iddo dreulio y flwyddyn 1837, mewn rhan helaeth, i deithio y wlad, a cheisio cael allan syniadau y Cymry ar y priodoldeb i gychwyn cylchgrawn misol Cymreig, a chafodd bob lle i gredu fod ei gyd—genedl yn wir awyddus, ac mewn gwir anghen, am gyhoeddiad o'r fath. Yn Ionawr, 1838, daeth y cyhoeddiad hwn allan dan yr enw Y Cyfaill o'r Hen Wlad, yr hwn enw a roddwyd arno gan Dr. Rowlands ei hunan, a theg yw dyweyd fod y cyhoeddiad hwn—o'r pryd hwnw hyd yn awr—wedi cael derbyniad croesawgar gan lawer o'r Cymry yn America. Llwyddodd Dr. Rowlands, yn y flwyddyn 1855, i gael gan y Parch. Thomas Jenkins, Utica, i brynu rhan o'r berchenogaeth, a bu y ddau yn cydweithredu yn hapus fel cyd-berchenogion & chyd-olygwyr, hyd y flwyddyn 1861, pryd y dewisodd Mr. Jenkins gael ymryddhau o'r berchenogaeth a'r olygiaeth, ac felly daeth y cylchgrawn, fel o'r blaen, dan eiddo a golygiaeth Dr. Rowlands ei hun, a pharhaodd i fod felly hyd ei farwolaeth ef, yr hyn a gymerodd le yn Utica, Hydref 10fed, 1866, pan nad oedd ond 59 mlwydd oed. Gwelir felly ei fod ef wedi bod ei hunan yn golygu Y Cyfaill am naw-ar-hugain o flynyddoedd, oddigerth yr yspaid byr y bu Mr. Jenkins yn cydofalu am dano. Ar ol hyn, ar gais y Cynghor Henad-