Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/223

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uriaethol, a gynnaliwyd yn Utica, ar brydnawn diwrnod claddedigaeth Dr. Rowlands, yn cael ei gadarnhau â dymuniad teulu y cyn-olygydd, ymgymerwyd â'r olygiaeth gan y Parch. Morgan A. Ellis, Hyde Park. Yn niwedd y flwyddyn 1869, darfu i Mrs. Rowlands, priod y diweddar berchenog a golygydd, werthu Y Cyfaill o'r Hen Wlad i gyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd yn yr America, fel, er yr adeg hono hyd yn bresennol, gellir edrych ar y cylchgrawn hwn fel eiddo i'r cyfundeb hwnw, yn cael ei gyhoeddi dan ei nawdd, ac yn gwasanaethu yn benaf, erbyn hyn, i amcanion llenyddol a chrefyddol y cyfundeb. Gwnaed cais eilwaith, ar ol y cyfnewidiad hwn, ar i Mr. Ellis barhau fel golygydd, ac yn y flwyddyn 1871, darfu i Gymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn y Gorllewin, ddewis y Parch. W. Roberts, D.D, Utica, yn gyd-olygydd ag ef, a bu y ddau yn cyd-weithredu. Argrephir ef, yn ystod y blynyddoedd diweddaf, gan Mr. T. J. Griffith, Utica, New York. Golygir Y Cyfaill yn bresennol gan y Parch. H. P. Howells, D.D., Cincinnati. Gostyngwyd y pris, er's rhai blynyddoedd, i $1.50, os telir am dano yn ystod y chwe' mis cyntaf o'r flwyddyn, neu, heb hyny, codir ef i $2.00.

Y Cenhadwr Americanaidd, 1840.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1840, gan y Parch. R. Everett, D.D., Steuben, Oneida Co., ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Pan oedd Dr. Everett wedi myned i hen ddyddiau, cynnorthwyid of gan ei fab, Mr. Lewis Everett, a golygid y farddoniaeth gan y Parch. Robert Evans (Trogwy), Remsen. Er nad ydym yn deall fod unrhyw gysylltiad swyddogol a phendant rhwng y cyhoeddiad hwn â'r Annibynwyr Cymreig yn yr America, eto dylid dyweyd ei fod wedi cyflawni gwasanaeth mawr iddynt. Wedi marwolaeth Dr. Everett,