Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

modd bynag, cymerwyd yr olygiaeth gan y Parchn. D. Davies (Dewi Emlyn), J. P. Williams, a T. C. Edwards (Cynonfardd), D.D., a pherchenogid ac argrephid ef gan Mr. Lewis Everett hyd ei farwolaeth yntau. Wedi hyny prynwyd y Cenhadwr Americanaidd gan y Parch. E. Davies, Waterville, yr hwn sydd yn parhau i'w gyhoeddi a'i olygu, a da genym ddeall fod yr hen gyhoeddiad rhagorol hwn yn parhau yn ei barch, ac yn ei ddefnyddioldeb i'r enwad Cynnulleidfaol drwy yr Unol Dalaethau. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw $1.50 yn y flwyddyn, ac ysgrifenir iddo gan rai o'r llenorion goreu.

Y Seren Orllewinol, neu Cyfrwng Gwybodaeth i hil Gomer yn America, 1842.—Cychwynwyd y cyhoeddiad misol hwn yn y flwyddyn 1842, gan y Parch. Richard Edwards, Pottsville, Schuylkill Co., Pa., a than olygiaeth y Parch. W. T. Phillips, Utica. Bu am rai blynyddoedd, ar ol hyny, dan olygiaeth y Parch. John P. Harris (Ieuan Ddu), Minersville, Pa. Daeth, wedi hypy, i gael ei olygu gan ei berchenog—y Parch. R. Edwards, Pottsville—am lawer o flynyddoedd, hyd nes, yn y flwyddyn 1868, y rhoddwyd ef i fyny. Cynnwysai bedair-ar-hugain o dudalenau wythplyg, a'i bris ydoedd $1.50 yn flynyddol. Bu ei gylchrediad yn lled uchel unwaith, ond dylid hysbysu mai yn mhlith y Bedyddwyr y derbynid ef fwyaf, gan mai eu gwasanaethu hwy yr ydoedd yn fwyaf neillduol.

Y Dyngarwr, 1842.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1842, gan y Parch. R. Everett, D.D., Steuben, Oneida Co., ac efe hefyd oedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu; ond, ar ol oddeutu dwy flynedd, unwyd ef â'r Cenhadwr Americanaidd, dan berchenogaeth a golygiaeth Dr. Everett.

Y Beread, neu Drysorfa y Bedyddwyr, a Chyfrwng Gwybodaeth gyffredinol i'r Cymry, 1842.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r