Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cylchgrawn hwn allan yn Ionawr, 1842, dan olygiaeth a gofal y Parch. D. Phillips, New York. Cynnwysai pob rhifyn oddeutu un-ar-bymtheg o dudalenau wythplyg, a'i bris ydoedd $2.00 yn y flwyddyn, a deuai allan yn bymthegnosol. Argrephid ef gan Mr. William Osborne, Caerefrog Newydd. Ystyrid y cyhoeddiad hwn fel yn dal cysylltiad yn fwyaf neillduol â'r Bedyddwyr, er ei fod yn gyfrwng gwybodaeth gyffredinol i'r Cymry yn ddiwahaniaeth. Rhoddwyd ef i fyny cyn gorphen ei flwyddyn gyntaf, a hyny oherwydd diffyg cefnogaeth.

Y Detholydd, 1850.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1850, gan y Parch. R. Everett, D.D., ac efe ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dolar yn y flwyddyn, a pharhaodd i ddyfod allan am oddeutu dwy flynedd. Ei brif amean ydoedd cyhoeddi erthyglau a darnau detholedig allan o gyfnodolion yr Hen Wlad, er mwyn i'r Cymry yn y gorllewin pell gael y fantais i'w darllen.

Y Cylchgrawn Cenedlaethol, 1853.-Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn mis Gorphenaf, 1853, a chychwynwyd ef gan Mr. John M. Jones, New York, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dolar y flwyddyn. Yr oedd y cyhoeddiad hwn, fel y dynoda ei enw, yn llawn o'r elfen genedlaethol, a rhoddid canmoliaeth iddo fel y cyfryw, ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hwy nag oddeuta dechreu y flwyddyn 1856.

Y Golygydd, 1856.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1856, gan y Parch. John Jones (Llangollen), Cincinnati, Ohio, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Ei bris ydoedd dolar yn y flwyddyn, a deuai allan yn fisol. Ystyrid ef yn gyhoeddiad da, ac yn dangos cryn athrylith a medr, ond ni ddaeth allan