Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ohono fwy na phedwar rhifyn, a rhoddwyd ef i fyny oherwydd diffyg cefnogaeth.

Y Traethodydd, 1857.—Dechreuwyd cyhoeddi y cylchgrawn hwn yn nechreu y flwyddyn 1857, gan y Parch. W. Roberts, D.D., New York, ac efe hefyd ydoedd ei berchenog a'i olygydd. Argrephid ef gan Meistri Richards a Jones, New York. Yn chwarterol y deuai allan, a'i bris ydoedd $1.50 yn flynyddol. Cynnwysai cyfrol am un flwyddyn ohono oddeutu 576 o dudalenau. Ceid yn y cyhoeddiad hwn hufen a phigion yr ysgrifau a gyhoeddid yn Y Traethodydd yn Nghymru, gydag ychwanegiadau gwerthfawr yn cynnwys erthyglau—ar wahanol faterion—gan brif feirdd a llenorion Cymreig yr Unol Dalaethau. Ond, drwg genym ddyweyd y bu raid ei roddi i fyny, ar ol ychydig flynyddoedd, a hyny yn gwbl oherwydd diffyg cefnogaeth. Credwn, yn sicr, mai anffawd resynus ydoedd gadael i'r cylchgrawn hwn fyned i lawr.

Y Bardd, 1858.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan ar Medi 15fed, 1858, a chychwynwyd ef gan Mr. Thomas Gwallter Price (Cuhelyn), Minesville, Pa, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu. Deuai allan yn bymthegnosol, a'i bris ydoedd dolar yn y flwyddyn. Cynnwysai pob rhifyn ohono oddeutu un-ar-bymtheg o dudalenau wythplyg. Ei arwyddair ydoedd—"Bod heb ddim yw bod heb Dduw." Canmolid ef fel cyhoeddiad da, ond ni ddaeth allan ohono fwy nag oddeutu pum' rhifyn.

Yr Arweinydd, 1858.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn ar Ionawr 10fed, 1858, dan olygiaeth y Parch, Thomas T. Evans, Floyd, ac argrephid ef gan Mr. Robert R. Meredith, Rome, New York, a'i bris ydoedd 50 cents yn flynyddol. Newidiwyd ffurf y cylchgrawn hwn, i raddau, yn y flwyddyn 1860, a daeth i gael ei olygu gan y Parch. William Hughes, Utica, a chodwyd ei bris í ddolar yn y