Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn nglyn â'r cylchgrawn, a thrwy hyny rhoddwyd ef i fyny cyn hir. Cynnwysai pob rhifyn oddeutu 24 o dudalenau, ac yr oedd yr argraphwaith yn hynod ddestlus a glanwaith. Ceir mai amrywiaeth ydoedd ei nodwedd, er mae yn deg dyweyd mai yr elfen grefyddol oedd y gryfaf ynddo. Bron yn mhob rhifyn ohono ceid pregethau, traethodau, ac erthyglau ar destynau fel y rhai canlynol:"Cyfiawnhad trwy Ffydd," "Meddwl Crist," "Dechreuad a Chynnydd Achos Cymreig Ballarat," "Hunan-dyb," "Tragwyddol Fabolaeth Crist," "Distaw. rwydd Nerth" "Ser-Ddewiniaeth," "Athrawiaeth y Drindod," &e. Ceid ysgrifau hefyd ar faterion eraill :- "Achyddiaeth Gymreig," "Yr Ysgubion," "Cymro yn Awstralia," "Y Corph Dynol," "Yr hen Gymraeg yn marw yn Victoria," "Yr Eisteddfod," &c., a byddai y gwahanol newyddion lleol yn llawn a dyddorol. Rhoddid ynddo hanes cyflawn am yr holl symudiadau Cymreig yn Awstralia, a byddai hyny yn gyfleusdra mawr i'r Cymry gwasgarog yn y wlad bellenig hono. Nis gellir edrych dros gynnwysiad rhifynau Yr Awstralydd, a darllen ei gynnyrchion, heb deimlo ei fod yn gylchgrawn gwir dda, ac y mae yn adlewyrchu yn hynod ffafriol ar dueddiadau llenyddol a chrefyddol plant Cymru pan yn mhell oddicartref.

3.-DYLANWAD Y NEWYDDIADURON A'R CYLCHGRONAU CYMREIG AR FYWYD Y CYMRY YN YR AMERICA AC AWSTRALIA.

Prin y mae genym ni, yn Nghymru, yr un syniad am anhawsderau sydd ar ffordd lledaeniad newyddiaduron a chylchgronau Cymreig yn yr America. Mae eangder aruthrol y wlad, diweddarwch ac anwadalwch arosiad y Cymry, eu gwasgariad, &c., yn rhwystrau o'r mwyaf i lenyddiaeth Gymreig yn y Gorllewin. Dylid