Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/230

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cofio nad yw y cyhoeddwyr a'r argraphwyr Cymreig yn rhai y gellir, mewn un modd, eu galw yn gyfoethog, ac wrth ystyried hyn a'r ffaith fod treuliadau arianol trymion yn nglyn â'r argraph wasg, a'r anhawader i dderbyn tanysgrifwyr, &c.,—wrth ystyried hyn oll, yn sier, mae ein cyd-genedl yn yr Unol Dalaethau dan rwymau bythol yno i'w cyhoeddwyr Cymreig hunanymwadol a llafurus. Rhaid dyweyd, wrth gymeryd pobpeth i'r cyfrif, fod rhif y newyddiaduron a'r cylchgronau Cymreig yn yr America yn cyrhaedd yn uchel. Gan fod y Cymry yn byw gymaint ar wasgar, a chan nad yw y wlad ond cydmariaethol ieuanc, mae yn ddigon anhawdd, ar hyn o bryd, tori llinellau pendant i ddylanwad y rhai hyn ar fywyd ein cyd-genedl, ac, efallai, mai yn y blynyddoedd dyfodol y teimlir fwyaf oddiwrth eu dylanwad, a chredwn mai teg ydyw bod yn amyneddgar i aros, am rai blynyddoedd eto, cyn disgwyl gweled yr holl ffrwyth. Gellir dyweyd, modd bynag, yn un peth, fod gan y newyddiaduron a'r cylchgronau Cymreig eu dylanwad ieithyddol cryf ar ein cyd-genedl yn y Gorllewin. Maent yn un moddion, gyda chyfryngau eraill, i gadw yn fyw yr iaith Gymraeg yn eu plith, ac ymddengys i ni fod gan lenyddiaeth Gymreig yr America, yn enwedig with ystyried pobpeth, ei Chymraeg da a phur. Meddylier, er enghraipht, am symledd a chywirdeb iaith Y Drych, a chredwn y deil cynnwys y newyddiadur hwn, ac yn arbenig ei erthyglau arweiniol, gydmariaeth âg eiddo unrhyw newyddiadur—mae yn amlwg eu bod yn ffrwyth meddwl aeddfed a dysgedig, ac nid hawdd dyweyd yn mha le y terfyna dylanwad y newyddiadur rhagorol hwn. Caniataer i ni wneyd un sylw, wrth son am hyn, yn nglyn â Chymraeg y newyddiadur a gychwynwyd yn ddiweddar gan Gymry Patagonia: gwell genym a fuasai